![Dewch i ymuno ar tim](https://www.monmouthshire.gov.uk/app/themes/monmouthshire/assets/images/jobs/come-join-the-team-cy.png)
Hyfforddwr Dosbarth Ffitrwydd
Oes gennych chi brofiad yn y Diwydiant Ffitrwydd a sgiliau cyfathrebu rhagorol i allu darparu safon uchel o wasanaeth cwsmeriaid? Rydym yn chwilio am Hyfforddwr Dosbarth Ffitrwydd angerddol a phenderfynol sydd wedi ymrwymo i wella cyfranogiad mewn gweithgareddau ffitrwydd a hybu iechyd a lles yn Group Fit Studios yn y Fenni.
Cyfeirnod Swydd: LMLC011
Gradd: Band E SCP 14 – 18 £27,334.00 - £29, 269.00
Oriau: Hyblyg gyda rotas wedi eu cytuno (efallai y bydd hyn yn newid yn unol gyda gofynion y Gwasanaeth)
Lleoliad: Canolfannau Hamdden Mynwy (neu leoliad arall yn unol â gofynion y gwasanaeth).
Dyddiad Cau: 11/07/2024 5:00 pm
Dros dro: Na
Gwiriad DBS: Bydd angen gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd