Skip to Main Content

Manteision Iechyd a ddaw o Ddarllen

Gall darllen fod yn ffynhonnell wych o fwynhad, p’un ai ydych chi’n chwerthin yn uchel am gymeriad digrif, yn ofnus o ddarllen tudalen nesaf y nofel gyffrous honno y mae pawb yn sôn amdani, neu ddim ond yn mwynhau rhywfaint o “amser i mi fy hun”.

Mae ymchwil hefyd yn dangos y gall darllen er pleser hybu gwell iechyd a lles. Mae’r sawl sydd yn darllen yn rheolaidd er pleser yn adrodd llai o deimladau o straen ac iselder na’r rhai nad ydynt yn darllen. Mae darllenwyr yn dweud bod darllen yn eu hatal rhag teimlo’n unig. Gall darllen fel rhan o drefn gyda’r nos a helpu gyda mynd i gysgu.

 

Darllen yn Dda yng Nghymru

Mae cynlluniau Darllen yn Dda yn eich helpu i ddeall a rheoli eich iechyd a lles gan ddefnyddio darllen defnyddiol.

Mae’r llyfrau i gyd yn cael eu dewis a’u hargymell gan arbenigwyr iechyd, yn ogystal â phobl sy’n byw gyda’r cyflyrau dan sylw a’u perthnasau a’u gofalwyr.

Mae Darllen yn Dda yn cael ei ddatblygu gan yr Asiantaeth Ddarllen (Reading Agency) mewn partneriaeth â Libraries Connected a SCL Cymru ac fe’i cyflwynir drwy lyfrgelloedd cyhoeddus.

Mae pedwar cynllun Darllen yn Dda ar gael yng Nghymru: cefnogi pobl sy’n byw gyda dementia, gyda phroblemau iechyd meddwl, ar gyfer plant, ac ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau.

Mae llyfrau ar gael o unrhyw un o Hybiau Cymunedol Sir Fynwy.

I ddysgu mwy, ewch i Darllen yn Dda yng Nghymru neu gofynnwch am wybodaeth yn eich llyfrgell leol.

Mae’r Asiantaeth Ddarllen yn elusen genedlaethol sy’n mynd i’r afael â heriau mawr bywyd drwy grym a ddaw o ddarllen. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r Asiantaeth Ddarllen i ddarparu Darllen yn Dda ym mhob un o’r 22 awdurdod llyfrgell yng Nghymru.

 

Darllen yn Dda ar gyfer dementia

Mae Darllen yn Dda ar gyfer dementia yn argymell darllen defnyddiol i bobl sy’n byw gyda dementia.

Mae’r rhestr lyfrau wedi’i thargedu at bobl sy’n byw gyda dementia, gofalwyr ac aelodau o’r teulu gan gynnwys plant iau i’w helpu i ddeall mwy am ddementia.

Mae rhai o’r llyfrau a argymhellir yn darparu gwybodaeth a chyngor; mae yna hefyd straeon personol a ffuglen i blant.

 Mae’r rhestr hefyd yn cynnwys ystod eang o fformatau gan gynnwys eLyfrau a llyfrau sain. Ochr yn ochr â’r llyfrau, mae detholiad o adnoddau digidol i gefnogi pobl sydd wedi’u heffeithio gan ddementia.

Darllen yn Dda i blant

Mae Darllen yn Dda i blant yn darparu darllen defnyddiol i gefnogi iechyd meddwl a lles plant. Mae’r llyfrau’n darparu gwybodaeth, straeon a chyngor gyda sicrwydd ansawdd.

Darllen yn Dda i bobl ifanc yn eu harddegau

Mae Darllen yn Dda i bobl ifanc yn eu harddegau yn argymell deunydd darllen ac adnoddau digidol i helpu pobl ifanc yn eu harddegau (13-18) i ddeall eu teimladau yn well, i drin profiadau anodd a rhoi hwb i’w hyder. Mae’r rhestr yn canolbwyntio ar gefnogi iechyd meddwl a lles pobl ifanc yn eu harddegau mewn cyd-destun ôl-bandemig.

Darllen yn Dda ar gyfer iechyd meddwl

Mae Darllen yn Dda ar gyfer iechyd meddwl yn darparu gwybodaeth a chymorth defnyddiol ar gyfer rheoli cyflyrau iechyd meddwl cyffredin neu ddelio â theimladau a phrofiadau anodd. Mae rhai llyfrau hefyd yn cynnwys straeon personol gan bobl sy’n byw gyda rhywun ag anghenion iechyd meddwl neu’n gofalu amdano.

Darllenwch y daflen ddigidol ddwyieithog yma a throsolwg llawn o’r llyfrau yma.