Sut i wneud cais am le meithrin neu ysgol?
Rhaid i rieni gwblhau ffurflen gais er mwyn cael naill ai lle meithrin neu le mewn ysgol. Mae cyfle i gwblhau cais ar-lein drwy Borthol Dinasyddion Cyngor Sir Fynwy. Gellir dod o hyd i hwn ar y dudalen ganlynol:
Os ydych yn cael trafferth cael mynediad i’r Porthol Dinasyddion, cysylltwch â’r Tîm Derbyn i Ysgolion ar 01633 644508 neu e-bostiwch accesstolearning@monmouthshire.gov.uk. Bydd aelod o’r tîm yn helpu gydag unrhyw ymholiadau.
Beth os nad wyf yn byw yn Sir Fynwy?
Os nad ydych yn byw yn Sir Fynwy ond yn dymuno gwneud cais i’ch plentyn fynychu ysgol yn Sir Fynwy, bydd angen i chi wneud hynny drwy eich awdurdod cartref (y talwch eich treth gyngor iddynt).
Gweler y manylion islaw:
- Cyngor Dinas Casnewydd – 01633 656656
- Cyngor Sir Torfaen – 01495 762200
- Cyngor Sir Blaenau Gwent – 01495 350555
- Cyngor Sir Powys – 01597 826457
- Cyngor Swydd Henffordd – 01432 260925
- Cyngor Swydd Caerloyw – 01452 425407
Beth sy’n digwydd os yw fy nghais yn hwyr?
Caiff ceisiadau a dderbynnir ar ôl y dyddiad cau eu trin fel rhai hwyr. Caiff y ceisiadau dilynol eu trin dan y trefniadau ar gyfer ceisiadau hwyr.
- Ceisiadau a dderbyniwyd ar ôl y dyddiad cau
- Lle bydd newid amgylchiadau wedi digwydd ar ôl y dyddiad cau yn effeithio ar y meini prawf ar gyfer pan fo mwy o geisiadau nag o leoedd ar gael
Gofynnir i chi nodi os yw eich cais yn hwyr yna gallai’ch cyfle o gael lle yn eich dewis ysgol yn llai. Mae hyn oherwydd y rhoddir blaenoriaeth i geisiadau a dderbyniwyd cyn y dyddiad cau. Caiff ceisiadau hwyr eu sypynnu yn ôl y mis pan gânt eu derbyn a chaiff y meini prawf ar gyfer pan fo mwyaf o geisiadau nag o leoedd ar gael eu gweithreduFfôn:
01633 644508 Os oes gennych unrhyw ymholiadau cysylltwch â the accesstolearning@monmouthshire.gov.uk
Ble dylwn i anfon fy nghais ar ôl ei lenwi?
Ar ôl ei llenwi, dychwelwch y ffurflen gais at:
Uned Ysgolion a Derbyn Myfyrwyr
Cyfarwyddiaeth Plant a Phobl Ifanc
Cyngor Sir Fynwy
Neuadd y Sir
Y Rhadyr
Brynbuga
NP15 1GA