Skip to Main Content

Mae’r Swyddfa Gartref yn disodli dogfennau mewnfudo gyda phrawf digidol o statws mewnfudo –– sef  eFisa – i bobl sydd eisoes yn byw yn y DU, ac ar gyfer ymgeiswyr newydd hefyd.

Mae’r Swyddfa Gartref yn datblygu system ffiniau a mewnfudo sy’n fwy digidol a symlach. Gan ddefnyddio dull graddol o weithredu gwasanaethau digidol, ein nod yw y bydd gan bobl, erbyn 2025, daith ddigidol ddiogel a di-dor pan fyddant yn rhyngweithio â system fewnfudo’r DU.

  • Bydd angen i gwsmeriaid sy’n defnyddio dogfen fewnfudo ffisegol ar hyn o bryd, megis trwydded breswylio fiometrig (BRP), neu ddogfen bapur etifeddol fel pasbort sy’n cynnwys stamp inc neu sticer vignette gymryd camau i greu cyfrif UKVI i gael mynediad at eu eFisa.
  • Mae’n rhad ac am ddim ac yn syml i gwsmeriaid sy’n dal dogfennau mewnfudo ffisegol greu cyfrif UKVI i gael mynediad i’w eFisa. Mae manylion sut i wneud hyn ar gael yn www.gov.uk/eVisa
  • Nid yw diweddaru o ddogfen ffisegol i eFisa yn effeithio ar statws mewnfudo cwsmer nac amodau caniatâd cwsmer i ddod i mewn neu aros yn y DU.
  • Mae eFisa wedi’i brofi, gyda miliynau o gwsmeriaid eisoes yn eu defnyddio ar lwybrau mewnfudo dethol, megis Cynllun Setliad yr UE.
  • Gall y rhai sy’n gwirio statws mewnfudo eisoes dderbyn ‘cod rhannu’ i wirio statws rhywun gan ddefnyddio’r gwasanaethau ar-lein perthnasol gan gynnwys cyflogwyr (gwiriad hawl i weithio) ac, yn Lloegr, landlordiaid (gwiriad hawl i rentu).
  • Gall eraill wirio statws mewnfudo unigolyn gan ddefnyddio cod rhannu a ddarperir gan yr unigolyn sy’n cael ei wirio gan ddefnyddio’r gwasanaeth ‘gwirio statws mewnfudo’.
  • Pan gyflwynir dogfen fewnfudo etifeddol iddynt, fel pasbort yn cynnwys stamp inc, gall y rhai sy’n gwirio statws gyfeirio’r unigolyn y maent yn gwirio ei statws i www.gov.uk/eVisa am fanylion ynghylch sut i gael mynediad i’w eFisa a’i ddefnyddio.
  • Mae’r Swyddfa Gartref yn cyfathrebu â chwsmeriaid, y rhai sydd angen gwirio statws mewnfudo, ac ymgeiswyr newydd am fisa gyda rhagor o wybodaeth am symud i eFisa a’r hyn y mae’n ei olygu iddynt yn 2024 a thu hwnt.
  • Mae rhagor o wybodaeth a’r diweddariadau diweddaraf ar gael yma www.gov.uk/eVisa.

 Gallwch lawrlwytho copi o’r daflen ffeithiau eFisa isod: