Mae’n bwysig ein bod yn talu’r swm cywir o fudd-daliadau i’n cwsmeriaid, ac y caiff twyll a chamgymeriadau eu canfod cyn gynted ag y bo modd a’u hatal. Mae hyn yn dibynnu ar:
- y cyngor yn casglu gwybodaeth a thystiolaeth briodol i gefnogi hawliadau am fudd-dal
- y cyngor yn gwirio’r wybodaeth ar ôl dechrau talu’r budd-dal
Mae hefyd yn dibynnu arnoch chi i’n hysbysu ar unwaith os yw eich amgylchiadau’n newid. Os nad ydych yn rhoi gwybod i ni am y newidiadau hyn, gallwch golli arian y mae gennych hawl amdano, neu gallwch dderbyn gormod o fudd-dal.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y daflen gwirio’ch cais.
Am dwyll budd-daliadau
Rydym wedi ym rwyo’n gryf i sicrhau bod pob hawlydd yn derbyn y budd-daliadau y mae ganddo hawl amdanynt; fodd bynnag, rydym yr un mor ymroddedig i nodi ac erlyn y rhai sy’n gwneud hawliadau twyllodrus.
Mae Cyngor Sir Fynwy yn cyflogi tîm o ymchwilwyr twyll proffesiynol sy’n arbenigo mewn ymchwilio twyll budd-daliadau tai a threth y cyngor.
Mae’r tîm ymchwiliadau yn cynnal ymholiadau cynhwysfawr, gan gyfweld â hawlwyr ac erlyn troseddwyr lle bo hynny’n briodol. Mae’r tîm yn gweithio hefyd gydag asiantaethau fel yr heddlu a’r Adran Gwaith a Phensiynau lle bo angen.
Nid oes eithriadau. Mae pobl sy’n fwriadol yn gwrthod rhoi gwybodaeth neu’n peidio â rhoi gwybod am newid yn eu hamgylchiadau yn lladron budd-daliadau.
Gall pobl gyflawni twyll budd-dal mewn nifer o ffyrdd. Dyma rai enghreifftiau o sut mae pobl yn torri’r gyfraith drwy beidio â datgelu:
- eu bod yn briod neu eu bod wedi’u gwahanu
- bod ganddynt eiddo
- eu bod bellach yn byw gyda phartner
- eu bod yn derbyn budd-daliadau eraill
- bod ganddynt gynilion
- eu bod yn hawlio am blant sydd wedi gadael y cartref
- eu bod wedi dechrau gwaith neu eu bod yn ennill arian
- eu bod wedi etifeddu arian
- eu bod yn mynd dramor, yn byw dramor, neu eu bod wedi newid cyfeiriad
Os ydych yn amau bod rhywun yr ydych yn ei adnabod yn hawlio budd-daliadau trwy dwyll, dylech:
- gysylltu â’r llinell gymorth twyll ar 01495 766324 (sylwer bod hyn yn rhif ffôn ar y cyd, sy’n cael ei rannu rhwng Sir Fynwy a Thorfaen)
- defnyddio ffurflen ar-lein i roi gwybod am y twyll budd-daliadau
- anfon e-bost at benefits@monmouthshire.gov.uk
- ysgrifennu at:
Tîm Ymchwilio Twyll
Y Gwasanaeth Budd-daliadau ar y Cyd
Lefel 3
Canolfan Ddinesig
Pont-y-pŵl
NP4 6YB