Mae Gweledigaeth i Drefynwy yn gynllun gweithredu ar gyfer dyfodol Trefynwy. Ei nod yw gwella economi, treftadaeth a chymuned Trefynwy. Lluniwyd y ddogfen derfynol yn dilyn ymgynghori helaeth yn y dref.
Mae Gweledigaeth i Drefynwy yn cynnwys casgliad o brosiectau sydd, gyda’i gilydd, yn ffurfio ‘consensws o uchelgais’ rhwng y cyngor a’i bartneriaid am y prosiectau y gellir eu cyflwyno yn y tymor canolig. Fel rhan o’r cynllun, mae yna prosiectau sy’n cael eu harwain gennym ni, ac hefyd mentrau sy’n cael eu harwain gan sefydliadau eraill yn y dref.
Prosiectau sy’n rhan o’r Weledigaeth i Drefynwy
Stryd Mynwy – Ymagweddau newydd ar ddylunio strydoedd
Bydd y prosiect hwn yn edrych ar ffyrdd o wella’r amgylchedd i gerddwyr ar hyd Stryd Mynwy. Mae’r prosiect yn dilyn adroddiad a luniwyd gan Hamilton-Baillie Associates yn 2008 ac roedd yn paratoi opsiynau ar gyfer y dref yn seiliedig ar ymagweddau cyfoes ar ddylunio strydoedd.
Roedd yr adroddiad yn cynnwys cynnig i leihau cyflymder cerbydau a gwella diogelwch i gerddwyr trwy gulhau’r ffordd yn bellach yn y ‘man cyfyng’ yn Stryd Mynwy (rhwng Stryd Sant Ioan a Sgwâr Agincourt). Roedd y cynnig hwn yn mynd i gael ei dreialu am gyfnod o 2-3 mis. Fodd bynnag, yn dilyn ymgynghori ar reoli traffig a gwell cyfleusterau i gerddwyr yng nghanol tref Trefynwy, mae peirianwyr priffyrdd y cyngor wedi adolygu’r cynigion gwreiddiol ac wedi penderfynu ailystyried y cynllun i gulhau’r mynediad i gerbydau ar ben Stryd Mynwy.
Cyfarfododd cynghorwyr sir lleol, uwch aelodau’r cabinet a swyddogion ag ymgynghorwyr Hamilton-Baillie Associates i asesu dyluniad y cynllun ac adolygu cynigion yng ngoleuni adborth gan y cyhoedd. Roedd y cynllun wedi creu llawer iawn o ddiddordeb ac roedd pryder sylweddol y byddai’r cynlluniau i wella mynediad i gerddwyr hefyd yn arwain at fwy o dagfeydd traffig.
Dywedodd Roger Hoggins, Pennaeth Seilwaith a Chynaliadwyedd: “Rydym yn gwybod bod gwella mynediad i gerddwyr yn mynd i arwain yn anochel at fwy o dagfeydd traffig, ond rydym yn cydnabod hefyd bod rhoi arbrawf o’r fath ar waith ar ei ben ei hun yn gallu bod yn wrthgynhyrchiol os bydd cynllun mwy yn cael ei gynnig yn y dyfodol. Felly, ni fyddwn bellach yn ystyried culhau’r mynediad i gerbydau ar gyffordd Stryd Mynwy a Sgwâr Agincourt ond mewn cyd-destun prosiect adfywio ehangach.”