Skip to Main Content
Dewch i ymuno ar tim

Gweithiwr Cymdeithasol – Tîm Anableddau Dysgu Cymunedol  – Gogledd Sir Fynwy

A ydych yn weithiwr cymdeithasol brwdfrydig ac angerddol sydd yn dymuno gwella bywydau pobl sydd ag anabledd dysgu? A ydych yn deall pwysigrwydd defnyddio dulliau sydd yn ffocysu ar gryfderau wrth weithio i alluogi pobl gydag anabledd dysgu a/neu anhwylderau sbectrwm awtistig i fyw yn annibynnol yn eu cymunedau lleol? Os felly, mae cyfle cyffrous gennym i unigolyn ymroddedig a brwdfrydig i ymuno gyda’n Tîm Anableddau Dysgu Cymunedol yng nghymuned brydferth a gwledig Sir Fynwy. Rydym yn dîm profiadol, cefnogol ac uchelgeisiol sydd yn ceisio sicrhau’r canlyniadau gorau i bobl sydd ag anableddau dysgu. Mae’r tîm yn cynnwys staff iechyd a gofal cymdeithasol sydd yn gweithio’n galed i gefnogi pobl i fyw eu bywydau eu hunain a’n helpu hwy i gyflawni’r amcanion sydd yn bwysig iddynt hwy, yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

 

Rydym yn chwilio am weithiwr cymdeithasol proffesiynol brwdfrydig, myfyriol a chreadigol sydd yn meddu ar werthoedd gwaith cymdeithasol cryf er mwyn ymuno gyda’n Tîm Anableddau Dysgu Cymunedol sydd yn gwasanaethu gogledd y Sir ac yn seiliedig yn Ysbyty Maindiff Court, y Fenni gyda gwaith achlysurol yn ne’r Sir. Byddwch yn gweithio o fewn tîm bach, gyda llwyth achos hylaw. Byddwch yn chwaraewr tîm gyda sgiliau cyfathrebu gwych ac ymroddiad at gydweithio gyda’r budd-ddeiliaid eraill. Byddwch yn meddu ar gymhwyster gwaith cymdeithasol proffesiynol ac wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.  Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus angen bod yn hyblyg, egnïol, arloesol a brwdfrydig, gyda’r gallu i ddarparu gwasanaeth safon uchel sydd yn ffocysu ar y person. Os mai chi yw’r person yma, rydym yn disgwyl ymlaen at dderbyn eich cais

Cyfeirnod Swydd: SAS143

Gradd: Band I SCP 31 – SCP 35 £39,186.00 - £43,421.00 y flwyddyn (Pro Rata)

Oriau: 30 awr yr wythnos

Lleoliad: y Fenni

Dyddiad Cau: 19/07/2024 12:00 pm

Dros dro: Na

Gwiriad DBS: Yes