Skip to Main Content
Dewch i ymuno ar tim

Gweithiwr Cymdeithasol – Gwasanaethau Integredig

Mae hwn yn gyfle cyffrous i weithiwr cymdeithasol profiadol ymuno â’n Tîm Integredig Gogledd Sir Fynwy. Rydym yn gweithio yn ac o amgylch Y Fenni ac ardal ehangach Sir Fynwy i gefnogi pobl ag ystod o amhariadau i fyw eu bywydau. Rydym yn gweithio mewn ysbytai lleol i gefnogi pobl sydd angen help i gynllunio eu rhyddhau. Rydym yn croesawu ceisiadau gan weithwyr cymdeithasol brwdfrydig sydd eisiau gweithio’n llawn amser neu’n rhan-amser. Mae’r rôl hon yn canolbwyntio ar ryddhau cleifion ysbyty. Rydym yn chwilio am Gweithiwr cymdeithasol profiadol sy’n gallu gweithio gyda chyflymder da, ac sy’n gallu gweithio gyda’n cydweithwyr o faes iechyd, i sicrhau rhyddhad diogel a llwyddiannus o’r ysbyty. Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol brofiad o ryddhau ysbyty ac mae’n gallu gweithio’n annibynnol, yn ogystal â rhan o dîm.

Cyfeirnod Swydd: SAS 056

Gradd: BAND I SCP 31 – 35(£39186 – £43421 p.a)

Oriau: 37 yr wythnos (byddwn hefyd yn ystyried ceisiadau gan staff sydd am weithio rhan-amser; nodwch pa oriau ydych am weithio ar y ffurflen gais)

Lleoliad: Parc Maerdy, Y Fenni

Dyddiad Cau: 12/07/2024 12:00 pm

Dros dro: Parhaol

Gwiriad DBS: Bydd apwyntiad i’r rôl hon wedi ei eithrio o’r Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr ac yn amodol ar y gwiriad canlynol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd: (Nodwch lefel y gwiriad): Gwiriad Manwl o’r Rhestr Gwahardd Gweithio gyda Phlant ac Oedolion