![Dewch i ymuno ar tim](https://www.monmouthshire.gov.uk/app/themes/monmouthshire/assets/images/jobs/come-join-the-team-cy.png)
Gweithiwr cymdeithasol
Mae hwn yn gyfle cyffrous i Weithiwr Cymdeithasol profiadol ymuno â thîm sefydledig a
phwrpasol sy’n ymroddedig i gefnogi cynlluniau gofal plant yn weithredol ac yn greadigol
gyda’r nod o gadw teuluoedd gyda’i gilydd.
Mae’r tîm Teuluoedd Gyda’n Gilydd yn dîm arloesol sy’n canolbwyntio ar gefnogi
teuluoedd trwy gynnal asesiadau o ansawdd ac ymyriadau ar sail tystiolaeth i hwyluso
rhyddhau Gorchmynion Gofal a Cheisiadau am Orchmynion Gwarcheidiaeth Arbennig.
Cyfeirnod Swydd: SCS302
Gradd: SCP 31 - 35 - £39,186 - £43,421 pro rata
Oriau: Rhan amser - mae'r swydd am 3 diwrnod yr wythnos, 22.5 awr
Lleoliad: Brynbuga ac ardal Sir Fynwy
Dyddiad Cau: 01/08/2024 5:00 pm
Dros dro: Na
Gwiriad DBS: Oes (Gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd Plant ac oedolion)