Skip to Main Content

Yma mae gwybodaeth ar y dilynol:

  • Mynwentydd y mae Cyngor Sir Fynwy yn berchen arnynt
  • Cysylltu
  • Hawl claddu unigryw
  • Claddedigaethau cartref
  • Datgladdiadau

Dynodwyd Cyngor Sir Fynwy yn “awdurdod claddedigaeth”. Y pedair mynwent agored a reolwn yw:

  • Cas-gwent
  • Llanelli Hill, y Fenni
  • Llan-ffwyst, y Fenni
  • Trefynwy

Rydym hefyd yn gyfrifol am fynwent sydd wedi cau yn Heol Hen Henffordd.

Caiff y Gwasanaeth Mynwentydd ei reoli gan y Swyddog Mynwentydd, ffôn 01873 735852, cemeteries@monmouthshire.gov.uk

Ar gyfer claddedigaethau yng Nghil-y-coed, cysylltwch â Chyngor y Dref ar 01291 420441.

Gweler ein ffioedd mynwentydd 2024-25 a ffurflenni a gwybodaeth am gladdedigaeth

Hawliau claddedigaeth unigryw

Ar gyfer pob claddedigaeth ym mynwentydd y cyngor, rhoddir hawliau claddedigaeth unigryw i berson neu bersonau cyfrifol a gytunwyd (fel arfer aelod o’r teulu). Mae hyn yn golygu fod gan ddeiliad hawl claddedigaeth unigryw hawl dros y bedd.

Sut mae trosglwyddo hawl claddedigaeth unigryw o bob person i rywun arall?

Mae amrywiaeth o resymau pam y gall fod angen trosglwyddo hawliau claddedigaeth unigryw. Er enghraifft, farwolaeth deiliad hawl claddedigaeth unigryw neu bod y deiliad yn dymuno rhoi’r gorau i’w hawliau.

Gall y ffordd y caiff y trosglwyddiad ei drin amrywio’n sylweddol yn dibynnu ar yr amgylchiadau. Gofynnir i chi felly gysylltu â’r hyb cymunedol perthnasol i gael cyngor.

Claddedigaeth cartref

Gall fod yn bosibl claddu anwyliaid ar eich tir preifat eich hun. Mae gwybodaeth bellach ar gael drwy gysylltu â’ch Swyddog Iechyd yr Amgylchedd lleol.

Datgladdiadau

Mae achlysuron pam, am amrywiaeth o resymau, y gall fod angen datgladdu corff.

Gallech ddymuno cysylltu â’ch hyb cymunedol lleol neu gyfarwyddwr angladdau i’ch llywio drwy’r broses.

Mae’n rhaid  i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder rhoi caniatâd ar gyfer unrhyw ddatgladdiad. Mae [/app/uploads/2013/06/Exhumation_Guidelines.pdf]canllawiau datgladdiad ar gael.

Ffurflenni Cais

Adran 46 Nferoedd Claddedigaethau Iechyd Cyhoeddus

Mae eithriad yn weithredol yn a31(1)(a). Mae’n debygol y byddai datgelu gwybodaeth ychwanegol yn cyfeirio at yr ymadawedig yn debygol o wneud newid i atal troseddu drwy alluogi neu annog comisiynu troseddau.

Mae’r eithriad hwn yn weithredol oherwydd pan fo person yn marw heb wneud ewyllys heb unrhyw berthynas agosaf hysbys mae asedau ystâd mewn risg nes cawsant eu lleoli a’u diogelu’n briodol e.e. rhewi cyfrifon banc a lleoli gweithredoedd teitl. Byddai rhoi manylion asedau posibl yr ystâd yn y parth cyhoeddus cyn y cafodd hyn ei wneud yn rhoi cyfleoedd ar gyfer gweithredoedd troseddol o ladrad neu dwyll. Ymhellach, mae tebygrwydd cryf y gall unrhyw eiddo fod heb ei feddiannu a gall gynnwys eiddo a dogfennau y gellid eu symud a fyddai mewn risg o ladrad neu ddifrod pe byddai’r lleoliadau hyn yn cael eu gwneud yn gyhoeddus cyn camau priodol i sicrhau hyn.

Ystyriwn fod y budd cyhoeddus mewn atal yr wybodaeth yn fwy na’r budd cyhoeddus yn ei ddatgelu.

Y rhesymau pam fod y budd cyhoeddus yn ffafrio atal yr wybodaeth yw:

● Mae budd cyhoeddus cryf mewn atal troseddu

● Mae budd cyhoeddus cryf mewn cynnal integriti eiddo sy’n wag yn neilltuol lle na fedrir dynodi unrhyw berson sy’n gyfrifol am ddiogelwch y safle

● Mae budd cyhoeddus cryf mewn caniatáu i Gyfreithiwr y Trysorlys gynnal ymchwiliadau i stadau a gaiff eu hatgyfeirio ato. Gall yr ymchwiliadau hyn gael ei lesteirio os caiff gwybodaeth yn ymwneud ag ystadau ei roi yn y parth cyhoeddus yn rhy gynnar.

Wrth gyrraedd y penderfyniad fe wnaethom ddynodi’r ffactorau dilynol pam y gallai datgeliad fod er y budd cyhoeddus ond ystyried eu bod yn cael eu gwrthbwyso gan y rhesymau a nodir uchod yn erbyn datgeliad:

● Mae budd cyhoeddus mewn sicrhau y caiff perthnasau yr ymadawedig eu canfod lle bynnag sy’n bosibl i sicrhau y caiff ystâd ei dosbarthu’n deg ac yn gyfreithlon. Fodd bynnag yn ein barn caiff y budd cyhoeddus ei wasanaethu orau gan ymdrechion Cyfreithiwr y Trysorlys a nodwn y caiff manylion ystadau sylweddol (o fwy na £5000) eu cyhoeddi gan Gyfreithiwr y Trysorlys unwaith y mae eu hymholiadau dechreuol wedi eu cwblhau a’u bod yn fodlon am ddiogelwch asedau.

2025
Ionawr/January 20250
2024
Ionawr/January 20240
Chwefror/February 20240
Mawrth/March 20240
Ebrill/April 20240
Mai/May 20241
Mehefin/June 20242
Gorffennaf/July 20240
Awst/August 20241
Medi/September 20242
Hydref/October 20240
Tachwedd/November 20241
Rhagfyr/December 20240
2023
Ionawr/January 20231
Chwefror/February 20231
Mawrth/March 20230
Ebrill/April 20231
Mai/May 20230
Mehefin/June 20232
Gorffennaf/July 20230
 Awst/August20230
Medi/September 20231
Hydref/October 20230
Tachwedd/November 20230
Rhagfyr/December 20230
2022
Ionawr/January 20220
Chwefror/February 20220
Mawrth/March 20220
Ebrill/April 20220
Mai/May 20220
Mehefin/June 20220
Gorffennaf/July 20220
Awst/August 20221
Medi/September 20220
Hydref/October 20220
Tachwedd/November 20220
Rhagfyr/December 20220
2021
Ionawr/January 20211
Chwefror/February 20211
Mawrth/March 20210
Ebrill/April 20210
Mai/May 20210
Mehefin/June 20210
Gorffennaf/July 20211
Awst/August 20210
Medi/September 20210
Hydref/October 20211
Tachwedd/November 20210
Rhagfyr/December 20210
2020
JanIonawr/January 20200

Chwefror/February 20200
Mawrth/March 20201
Ebrill/April 20200
Mai/May 20200
Mehefin/June 20200
Gorffennaf/July 20200
Awst/August 20200
Medi/September 20200
Hydref/October 20201
Tachwedd/November 20200
 Rhagfyr/December 20200
2019
Ionawr/January 20190
Chwefror/February 20190
Mawrth/March 20190
Ebrill/April 20190
Mai/May 20190
Mehefin/June 20190
Gorffennaf/July 20190
Awst/August 20190
Medi/September 20190
Hydref/October 20190
Tachwedd/November 20190
Rhagfyr/December 20190