Erthygl wedi’i diweddaru diwethaf: 22ain Mai 2023
Gwasanaethau etholiadol sy’n gyfrifol am lunio’r gofrestr etholiadol yn ogystal â chynnal yr holl etholiadau a refferenda a gynhelir yn Sir Fynwy. Mae hyn yn cynnwys:
Top of Form
- llunio a chyhoeddi’r gofrestr etholiadol yn flynyddol
- gweinyddu pleidleisiau post a phleidleisio drwy ddirprwy
- cynnal rhestrau o etholwyr y lluoedd arfog a thramor
- hyrwyddo cyfranogiad mewn materion democratiaeth a ffiniau etholiadol
Etholiadau’r Cyngor – 5 Mai 2022
Cynhaliwyd etholiadau ar 5 Mai 2022 er mwyn ethol Cynghorwyr Sir a Chynghorwyr Tref a Chymuned ar hyd a lled Sir Fynwy.
Mae gwybodaeth ar yr etholiad ar gyfer pleidleiswyr ar gael yma.
Mae gwybodaeth ar gyfer ymgeiswyr neu os ydych yn ystyried sefyll yn yr etholiad ar gael yma.
Canlyniadau’r Etholiad
Etholiadau Sir ac Etholiadau Cymuned a Ymladdwyd
Hysbysiadau Cyngor Sir Na Ymladdwyd
Hysbysiad Cyfun o Etholiadau Na Ymladdwyd
Y Gofrestr Etholiadol
Er mwyn ychwanegu eich manylion i’r gofrestr etholiadol, mae modd i chi wneud hyn ar-lein drwy fynd i www.gov.uk/registertovote neu mae modd i chi gysylltu gyda gwasanaethau etholiadol am ffurflen gais.
Mae gwybodaeth am y gofrestr agored a ffurflen gais i ddileu eich manylion yn barhaol oddi ar y gofrestr agored ar gael drwy gysylltu â’r swyddfa etholiadau ar 01633 644212 neu e-bostiwch elections@monmouthshire.gov.uk
Dod o Hyd i’ch Gorsaf Bleidleisio
Rhowch eich cod post yn y blwch er mwyn dod o hyd i’ch gorsaf bleidleisio:
Nodwch eich cod post
Pleidlais Bost a Phleidleisio Drwy Ddirprwy
Os na allwch fynd i orsaf bleidleisio ar y diwrnod pleidleisio i fwrw eich pleidlais gallwch wneud cais i bleidleisio drwy’r post neu benodi person i bleidleisio ar eich rhan. Mae ffurflenni cais i newid eich dull o bleidleisio ar gael.
Mae’n bosib dychwelyd ceisiadau am bleidleisio drwy’r post a phleidleisio drwy ddirprwy drwy e-bost i elections@monmouthshire.gov.uk neu drwy’r post i Cofrestru Etholiadol, Cyngor Sir Fynwy, Neuadd y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA.
Etholiadau
Cynghorwyr seddi gwag
Mae seddi gwag ar gyfer cynghorydd ar lefel Cyngor Sir, yn ogystal â lefel cynghorau tref a chymuned, yn medru digwydd trwy gydol y tymor yn y swydd. Bydd pob hysbysiad yn ymwneud â swyddi gwag ac etholiadau ar y lefel hon yn cael eu cyhoeddi isod
Hysbysiad o Sedd Wag
Hysbysiad o Sedd Wag – Cyngor Cymuned Trellech United, Ward Catbrook
Hysbysiad o Sedd Wag – Cyngor Cymuned Trellech United, Ward Llanisien
Hysbysiad o Sedd Wag – Cyngor Tref Cil-y-coed, Ward Castell Cil-y-coed
Hysbysiad o Sedd Wag – Cyngor Cymuned Porthsgiwed, Ward Pentref Porthsgiwed
Hysbysiad o Etholiad
Hysbysiad o Etholiad – Cyngor Tref Cas-gwent, Ward Castell Cas-gwent
Hysbysiad o Etholiad – Cyngor Tref y Fenni, Ward Pen-y-fâl
Datganiad am y Sawl a Enwebwyd
Datganiad am y Sawl a Enwebwyd – Cyngor Tref Cas-gwent, Ward Castell Cas-gwent
Datganiad am y Sawl a Enwebwyd – Cyngor Tref y Fenni, Ward Pe-y-fâl
Hysbysiad o Etholiad Na Ymleddir
Datganiad o Etholiad Na Ymleddir – Cyngor Cymuned Ynysgynwraidd
Datganiad o’r Canlyniad
Cyngor Tref y Fenni, Ward Pen Y Fal– 27ain Ebrill 2023
Cyngor Tref Cas-gwent, Ward Castell Cas-gwent – 20fed Ebrill 2023
Cyngor Sir Fynwy – Ward Dyfawden – 20fed Hydref 2022
Mae canllaw ar y broses etholiadol ar gyfer Cynghorau Tref a Chymuned ar gael yma.
Hyrwyddo Democratiaeth Leol
Gwybodaeth ar gymryd rhan mewn democratiaeth leol
Archif Canlyniadau Etholiadol
’Canlyniadau’r etholiadau blaenorol a gynhaliwyd yn Sir Fynwy <http://www.monmouthshire.gov.uk/election-results-archive>
Adolygiad o’r Ffiniau
Adolygiad o’r Trefniadau Etholiadol
Mae Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru wedi cynnal arolwg o’r trefniadau etholiadol ar gyfer Sir Fynwy. Maen nhw wedi cyhoeddi’r cynigion terfynol ar gyfer Seddi Sirol newydd a fydd yn dod i rym yn etholiadau lleol 2022. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar eu gwefan.
Mae mapiau o ffiniau wardiau’r Cyngor Sir ar gael drwy glicio yma.
Mae mapiau o ffiniau wardiau’r Cyngor Cymuned ar gael drwy glicio yma.
Mae modd i chi hefyd defnyddio map rhyngweithiol o’r ffiniau gan ddefnyddio teclyn mapio gwybodaeth yma.
Hysbysiad Preifatrwydd GDPR
Mae’r Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer y Swyddog Cofrestru Etholiadol ar gael yma: