- Prosesu ceisiadau Trwyddedau Gwaith ar gyfer plant.
- Prosesu Trwyddedau Adloniant a Thrwyddedau Hebryngwr
Trwyddedau Gwaith
Mae’r prif ddarpariaethau sy’n llywodraethu cyflogaeth plant yn gynwysedig yn Adran 18 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1933. Mae is-ddeddfau Awdurdodau Lleol a wnaethpwyd o dan Ddeddf 1933 yn gallu gosod cyfyngiadau pellach ar oriau ac amodau’r gwaith a natur y gyflogaeth a ganiateir. Er bod yr is-ddeddfau hyn yn amrywio o awdurdod i awdurdod, rhaid i bob un cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth sylfaenol ac â’r egwyddor gyffredinol mai lles y plentyn sydd bwysicaf.
Gwaith a ganiateir
Pan rydych chi’n 13
Gallwch gael eich cyflogi i wneud ‘gwaith ysgafn’ yn unig mewn un o’r canlynol:
- Gwaith amaethyddol neu arddwriaethol
- Dosbarthu papurau newydd, newyddiaduron a deunydd argraffedig arall
- Gwaith siop, gan gynnwys stacio silffoedd
- Salonau trin gwallt
- Gwaith swyddfa
- Golchi ceir â llaw mewn lleoliad preswyl
- Mewn caffi neu fwyty
- Mewn stablau marchogaeth
- Gwaith domestig mewn gwestai a sefydliadau eraill sy’n cynnig llety
Pan rydych chi’n 14 ac 15
Gallwch gael eich cyflogi i wneud ‘gwaith ysgafn’ yn unig.
- Gwaith amaethyddol neu arddwriaethol
- Dosbarthu papurau newydd, newyddiaduron a deunydd argraffedig arall
- Gwaith siop, gan gynnwys stacio silffoedd
- Salonau trin gwallt
- Gwaith swyddfa
- Golchi ceir â llaw mewn lleoliad preswyl
- Mewn caffi neu fwyty
- Mewn stablau marchogaeth
- Gwaith domestig mewn gwestai a sefydliadau eraill sy’n cynnig llety
Gallwch ymgymryd â masnachu mewn marchnad os ydych yn cael eich cyflogi gan eich rhieni mewn perthynas â’u busnes a’ch bod yn cael eich goruchwylio ganddynt.
Pan rydych chi’n 16
Bydd y cyfyngiadau uchod yn dal yn berthnasol pan rydych o oedran ysgol gorfodol. Os yw’r plentyn/person ifanc yn dymuno, yn gyfreithiol, gallant adael ysgol ar ddydd Gwener olaf mis Mehefin yn y flwyddyn ysgol pan maen nhw’n cyrraedd 16 oed. Nid ydynt yn gallu gweithio’n llawn amser tan ar ôl y dyddiad hwnnw.
Gwaith gwaharddedig ar gyfer pob plentyn o oedran ysgol gorfodol
Ni ellir cyflogi unrhyw blentyn o oedran ysgol
- Mewn sinema, theatr, disco, neuadd ddawns neu glwb nos, oni bai mewn cysylltiad â pherfformiad a roddir yn gyfan gwbl gan blant
- I werthu neu ddosbarthu alcohol, oni bai am mewn cynhwysyddion wedi’u selio
- I ddosbarthu llaeth
- I ddosbarthu olewau tanwydd
- Mewn cegin fasnachol
- I gasglu neu ddidoli sbwriel
- Mewn unrhyw waith sydd dros dri metr uwchben lefel y ddaear neu, gyda gwaith da do, dros dri metr uwchben lefel y llawr
- Mewn gwaith sy’n cynnwys cyswllt niweidiol â chyfryngau corfforol, biolegol neu gemegol
- I gasglu arian neu werthu neu ganfasio o ddrws i ddrws, oni bai o dan oruchwyliaeth oedolyn
- Mewn gwaith sy’n cynnwys cyswllt â deunydd i oedolion neu mewn sefyllfaoedd sy’n anaddas i blant am y rheswm hwn
- Mewn gwerthiannau dros y ffôn
- Mewn unrhyw ladd-dy neu yn y rhan honno o unrhyw siop cigydd neu leoliad arall sy’n ymwneud â lladd da byw, cigyddiaeth neu baratoi carcasau neu gig i’w werthu.
- Fel gwasanaethydd neu gynorthwyydd mewn ffair neu arcêd difyrion neu mewn unrhyw leoliad arall a ddefnyddir at ddibenion difyrrwch cyhoeddus trwy beiriannau awtomatig, gemau siawns neu sgil neu ddyfeisiau tebyg
- Mewn gwaith gofal personol neu gyda phreswylwyr unrhyw gartref gofal preswyl neu gartref nyrsio oni bai bod hynny o dan oruchwyliaeth oedolyn cyfrifol.
Os oes gan eich plentyn swydd ran amser, neu os ydynt wedi cael cynnig swydd ran amser, bydd angen trwydded waith arnynt. Rhowch wybod i’ch ysgol bod eich plentyn yn gweithio a byddant yn sicrhau eich bod yn cael ffurflen, neu fe allwch lawrlwytho’r ffurflen trwy glicio ar y ddolen hon. Yna, mae angen i’r rhiant a’r cyflogwr lenwi’r ffurflen ac angen i’r ysgol ei lofnodi, cyn ei anfon i’r cyfeiriad canlynol:-
Gwasanaeth Lles Addysg,
Cyngor Sir Fynwy,
Neuadd y Sir,
Y Rhadyr,
Brynbuga,
Sir Fynwy,
NP15 1GA
Trwyddedau Adloniant
Os oes angen trwydded adloniant ar eich plentyn, yna bydd angen i chi lenwi’r ffurflen gais ofynnol. Gellir lawrlwytho’r hon trwy glicio ar y ddolen hon. Rydym angen 21 niwrnod o rybudd i brosesu trwyddedau adloniant felly gofynnir ichi sicrhau bod y cais yn cael ei wneud mewn da bryd oherwydd efallai na fydd gan y Gwasanaeth Lles Addysg digon o amser i gwblhau’r holl wiriadau angenrheidiol a gwaith papur er mwyn sicrhau bod lles eich plentyn yn cydymffurfio â chyfarwyddyd statudol.
Gellir cael rhagor o wybodaeth ar y Rhwydwaith Cenedlaethol ar gyfer Plant mewn Cyflogaeth ac Adloniant (NNCEE) ar y ddolen hon.
Hebryngwyr
Os oes diddordeb gennych mewn dod yn hebryngwr, gofynnir ichi gwblhau’r ffurflen y gellir ei lawrlwytho trwy glicio ar y ddolen hon. Oherwydd bod angen i hebryngwyr gael gwiriad cyfredol Sir Fynwy gyda’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, mae’n rhaid gwneud y cais hwn ymhell cyn y dyddiad pan fydd ei angen. Bydd angen i Sir Fynwy gyflwyno’r cais am wiriad ac yna, bydd yn cael ei brosesu’n allanol.