Beth yw MoSTS?
Mae Gwasanaeth Addysgu Arbenigol Sir Fynwy (MoSTS) yn dîm o athrawon arbenigol a Chynorthwywyr Addysgu Lefel Uwch sy’n cydweithio ag ysgolion i helpu disgyblion i oresgyn rhwystrau wrth gaffael sgiliau llythrennedd.
Fel rhan o’u cefnogaeth a’u gwaith gydag ysgolion, mae MoSTS hefyd yn darparu ymyriadau llythrennedd i grwpiau unigol a bach o ddisgyblion.
Mae ysgolion, fel arfer trwy’r Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol, yn gyfrifol am ymgysylltu â MoSTS.
Cydsyniad Gwybodus
Ceisir caniatâd a chydsyniad wedi’i lofnodi bob amser gan rieni/gofalwyr, cyn ymgysylltu â MoSTS.
Gwerthoedd Sir Fynwy
Rydym yn gweithio o fewn Gwerthoedd Allweddol ac Ymddygiad Cyngor Sir Fynwy:
Mae ein diben yn seiliedig ar ymdeimlad clir o bwy ydym ni fel sefydliad. Rydym yn disgwyl i bobl sy’n gweithio gyda ni rannu set gwerth cryf a disgwyl bod y rhain yn amlwg yn y ffyrdd yr ydym yn gweithio ac yn ymgysylltu â’n cymunedau.
GwaithTîm Byddwn yn gweithio gyda chi a’n partneriaid i gefnogi ac ysbrydoli pawb i gymryd rhan. Byddwn yn gwneud y gorau o’r syniadau, a’r adnoddau sydd ar gael er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud y pethau sy’n cael effaith fwyaf cadarnhaol ar ein pobl a’n lleoedd. Bod yn Agored Rydym yn agored ac yn onest. Mae pobl yn cael y cyfle i gymryd rhan a dweud wrthym beth sy’n bwysig. Hyblygrwydd Rydym yn hyblyg er mwyn gallu darparu’r gwasanaethau mwyaf effeithiol ac effeithlon. Mae hyn yn golygu ymrwymiad gwirioneddol i weithio gyda phawb i gofleidio ffyrdd newydd o weithio. Tegwch Rydym yn darparu cyfleoedd i bobl a chymunedau ffynnu. Byddwn bob amser yn ceisio trin pawb yn deg ac yn gyson. Caredigrwydd Byddwn yn dangos caredigrwydd i bawb yr ydym yn gweithio gyda nhw, gan roi pwysigrwydd perthnasoedd a’r cysylltiadau sydd gennym â’n gilydd wrth wraidd pob rhyngweithio |
Cwrdd â’r Tîm
Gwybodaeth Bellach
Gwybodaeth MoSTS ar gyfer Plant a Phobl Ifanc
Gwybodaeth MoSTS i Ysgolion 2023-24
Adnoddau ar gyfer Staff Ysgol Gwasanaeth Addysgu Arbenigol Sir Fynwy (sharepoint.com)