Lle’r ydym yn gweithio
Mae gennym ddau therapydd teulu sy’n gweithio yn y gymuned o hybiau Cyngor Sir Fynwy yn y Fenni, Trefynwy a Chas-gwent.
Sut y gallwn ni eich helpu
Mae therapi teulu yn canolbwyntio ar gefnogi’r teulu cyfan er mwyn cefnogi’r plentyn. Mae Therapi Teulu yn wasanaeth cyfrinachol sy’n rhoi cymorth therapiwtig i deuluoedd sy’n cael anawsterau.
Mae teuluoedd yn penderfynu dod i sesiynau therapi teulu oherwydd amrywiaeth o broblemau, megis: herio ymddygiad, dadlau ac ymladd, straen, ysgariad a gwahanu rhieni, newidiadau yn strwythur y teulu, pryder, presenoldeb yn yr ysgol neu fethiant cyfathrebu. Daw teuluoedd atom gan nad yw eu ffyrdd arferol o reoli anhawster yn gweithio mwyach.
Drwy sgwrsio rydym ni a’r teulu yn meddwl am batrymau nad ydynt yn helpu, sy’n eu cadw’n sownd ac felly’n methu dod o hyd i’w hatebion eu hunain. Drwy drafod ac archwilio, rydym yn helpu teuluoedd i nodi ffyrdd amgen o fynd i’r afael â’r anawsterau a’u cefnogi i weithredu newidiadau lle bo angen.
Yn ddelfrydol, rydym yn hoffi cwrdd â’r teulu cyfan gan ei bod yn ddefnyddiol clywed syniadau pawb am sut maen nhw’n gweld yr anawsterau. Yn aml, ni all pawb fod yn bresennol, nac am fod yn bresennol, felly gwelwn pwy bynnag all ddod.
Mae’r ddau therapydd teulu yn ymarferwyr Gwrthwynebiad Di-drais. Mae Gwrthwynebiad Di-drais yn ddull sy’n canolbwyntio ar y berthynas rhwng y rhieni a’r plant ac ar gefnogi rhieni i gysylltu â’u plentyn ac i wrthsefyll ymddygiad rheoli a dinistriol
Ynglŷn â’n tîm
Sarah Rogers ac Erica Pavord – Mae gennym ddau therapydd teulu, seicotherapydd systemig, sy’n aelod achrededig o Gyngor Seicotherapyddion y Deyrnas Unedig, ac yn ymarferydd systemig. Mae’r ddwy yn aelodau cofrestredig o’r Gymdeithas Therapi Teulu. Mae hyn yn golygu eu bod yn dilyn cod moeseg proffesiynol ac yn dilyn canllawiau arfer da a bennwyd gan y cyrff proffesiynol hyn.