Hyfforddiant Beic Sir Fynwy – Mae Cyngor Sir Fynwy yn ymroddedig i hyrwyddo teithio llesol a bydd yn cyflwyno hyfforddiant beic i ysgolion ar draws Sir Fynwy.
Mae’r Tîm Diogelwch Ffordd yn cynnig Rhaglen Hyfforddiant Beic Safonau cenedlaethol i bob ysgol gynradd ar draws Sir Fynwy.
Anelir hyfforddiant beic at flwyddyn 5 ac mae’n rhan bwysig o’r cwricwlwm; y prif ddiben yw cynyddu ymwybyddiaeth plant o beryglon ar y ffordd. Fe’i cynigir yn rhad ac am ddim i bob ysgol ac mae’r cwrs yn parhau am chwe awr a chaiff ei gyflwyno gan dîm o hyfforddwyr profiadol.
Mae’r hyfforddiant yn cynnwys sut i reoli eich beic, medru edrych ac asesu traffig, sut i gyfathrebu a lle i’ch gosod eich hunan ar y ffordd gan ddatblygu gwybodaeth o ymwybyddiaeth o beryglon a gwybodaeth o god y ffordd fawr.
Lefel 1 – Tua 2 awr fesul grŵp o 15 dysgwyr.
Technegau a sgiliau Lefel 2
- Mynd ar ac oddi ar feic
- Cychwyn a stopio
- Cadw’n syth heb simsanu
- Pedalu
- Llywio a symud ar ymlaen
- Seiclo gydag un llaw/rhoi arwyddion
- Edrych tu ôl
- Defnyddio geriau
Drwy orffen lefel 1, rydych yn dangos fod y sgiliau a’r hyder gennych i fynd ar y beic lle nad oes ceir ac yn barod i ddechrau ar eich hyfforddiant ar y ffordd.
Lefel 2 – tua 6 awr fesul grŵp o 6 dysgwr
Technegau a sgiliau Lefel 2
- Damcaniaeth seiclo ar y ffordd
- Mynd oddi ar eich beic a chychwyn
- Stopio
- Defnyddio geriau
- Seiclo gydag un llaw/rhoi arwyddion
- Edrych tu ôl
- Troi i’r dde, i’r chwith a goddiweddyd cerbydau wedi parcio ar amrywiaeth o ffyrdd tawel
- Defnyddio cyfleusterau seiclo
I gael mwy o wybodaeth neu i archebu cwrs cysylltwch â: Roadsafety@Monmouthshire.gov.uk
Swyddogion diogelwch ffordd iau
Beth yw Swyddog Diogelwch Ffordd Iau (JRSO) ?
Mae JRSO yn helpu eu Swyddog Diogelwch Ffordd Lleol i hyrwyddo materion diogelwch ffordd o fewn yr ysgol a’r gymuned leol. Caiff pob ysgol gynradd ei hannog i benodi dau JRSO o Flwyddyn 5.
Mae bod yn JRSO yn swydd bwysig iawn, ond mae hefyd yn llawer o hwyl.
Gallech gymryd rhan mewn llawer o weithgareddau drwy gydol y flwyddyn:
- Cadw hysbysfwrdd a gwneud yn siŵr fod yr wybodaeth diogelwch ffordd yn gyfoes
- Siarad mewn gwasanaeth ysgol neu mewn dosbarth ar themâu diogelwch ffordd
- Trefnu cystadlaethau
- Dyfarnu tystysgrifau
- Defnyddio gwefan JRSO
- Helpu i benodi JRSO y flwyddyn nesaf
Sesiynau Pontio
Fel rhan o’n hymrwymiad i sicrhau fod pob plentyn yn ddiogel ar ymyl y ffordd, byddwn yn awr yn cynnig gweithdai pontio diogelwch ffordd ar gyfer disgyblion blwyddyn 6 yn barod ar gyfer iddynt bontio i ysgol gyfun. Bydd y sesiynau yn cynnwys trafodaethau ar ddefnyddio ffyrdd diogel i’r ysgol, cynllunio taith a negeseuon allweddol arall diogelwch ffordd. Mae gweithdai’n parhau am tua 1 awr yn seiliedig ar ddosbarth o 30. I gael mwy o wybodaeth neu i drefnu sesiwn, anfonwch e-bost at roadsafety@monmouthshire.gov.uk