Gellir mynychu cymorthfeydd y gwasanaeth pensiynau trwy apwyntiad yn unig. Os hoffech wneud apwyntiad i drafod unrhyw faterion neu angen cyngor ar fudd-daliadau y gallai fod gennych hawl iddynt, ffoniwch y gwasanaeth pensiynau ar 0845 6060265. Gellir trefnu ymweliad â’ch cartref neu yn y siop un stop lle bo angen.
Gellir cael gwybodaeth am y canlynol:
- Pensiwn ymddeol
- Credydau pensiwn
- Lwfans gweini
- Lwfans byw i’r anabl
- Lwfans gofalwr
- Taliadau tanwydd gaeaf
- Rhent / treth y cyngor
- Mynd i’r ysbyty
- Mynd dramor a budd-daliadau nawdd cymdeithasol