Mae fy adeilad newydd yn barod i symud iddo ond mae’n dal heb fod ar Ffeil Cyfeiriadau Cod Post y Post Brenhinol; sut y gellid unioni hyn?
Cyfrifoldeb y datblygydd yw sicrhau eu bod yn cysylltu â’r Post Brenhinol i’w hysbysu pan fydd rhywun yn dechrau byw yn yr adeilad fel y gall y Post Brenhinol symud y manylion o’r ffeil NYB (heb eu hadeiladu eto) i’r Ffeil Cyfeiriad Cod Post (PAF).
I weithredu eich cyfeiriad newydd unwaith y bydd yr adeilad yn barod (h.y. i symud o cyfeiriad o’r NYB i’r PAF), defnyddiwch ffurflen cyswllt ar-lein newydd y Post Brenhinol. Mae’r ffurflen yn gofyn i’r holl wybodaeth berthnasol fod yn y fformat cywir i’w galluogi i ddelio’n gyflym ac effeithiol gyda’ch cais.
A yw’n rhaid talu am y gwasanaethau Enwi a Rhifo Strydoedd?
Oes – mae’n rhaid talu’r costau dilynol:
A allaf newid enw fy nhŷ?
Gallwch, cyn belled â’ch bod yn dewis enw sy’n cydymffurfio gyda’n polisi. Cliciwch yma i ganfod sut.
A allaf ychwanegu enw at y rhif sydd ar fy eiddo?
Gallwch, cyn belled â’ch bod yn dewis enw sy’n cydymffurfio gyda’n polisi.
Gofynnir i chi nodi, serch hynny, mai rhif eich eiddo fydd bob amser fydd y brif ddull o’i adnabod ac na allwch eich dynnu. Bydd yr enw a ddewiswch yn ychwanegol at y rhif a chaiff ei adnabod fel Alias.
Cliciwch yma i ganfod mwy am ychwanegu enw at y rhif sydd ar eich eiddo.
Os wyf yn cofrestru cyfeiriad, a wyf yn awtomatig wedi cofrestru ar gyfer treth gyngor?
Na, ond caiff ein Hadran Treth Gyngor ei hysbysu am bob cyfeiriad newydd a drefnir. I sicrhau eu bod yn gwybod am eich eiddo newydd, cliciwch yma.
Beth yw’r Ffeil Cyfeiriad Cod Post neu PAF?
Y Ffeil Cyfeiriad Cod Post (PAF) yw prif ffeil cyfeiriadau’r Post Brenhinol lle cedwir pob cyfeiriad swyddogol.
Mae gwahanol sefydliadau yn tanysgrifio i PAF ac yn defnyddio ei ddata i gadarnhau fod cyfeiriad yn swyddogol.
Maent yn cynnwys cwmnïau cyfleustod, darparwyr gwasanaethau ariannol a sefydliadau masnachol eraill sy’n gwerthu nwyddau a gwasanaethau ar y rhyngrwyd.
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am Ffeiliau Cyfeiriad Cod Post y Post Brenhinol.
Cliciwch yma i ddarllen Cod Ymarfer PAF y Post Brenhinol.
Pam fod y cyfeiriad sydd gennych ar gyfer fy eiddo yn wahanol i’r cyfeiriad mae’r Post Brenhinol yn ei ddefnyddio?
Gall fod gwahaniaethau rhwng cyfeiriadau a gyhoeddir gan yr awdurdod lleol a’r rhai a ddefnyddir gan y Post Brenhinol ar gyfer dosbarthu post.
Er bod gan Gyngor Sir Fynwy y pŵer cyfreithiol i gyhoeddi cyfeiriad, y Post Brenhinol sy’n gyfrifol am gyhoeddi cod post.
Mae gan bob sefydliad ei ffordd ei hun o gofnodi data a setiau unigol o reolau ar sut y caiff y data ei drin; oherwydd hyn nid yw’r Post Brenhinol bob amser yn gallu cyfateb yn union â chyfeiriad yr awdurdod lleol.
Mae Cyngor Sir Fynwy yn creu cyfeiriadau yn ôl Safon Prydeinig BS7666, y safon cenedlaethol ar gyfer cyfeiriadau.
Mae’r ffurf hwn o gyfeiriad bob amser yn cynnwys enw’r ffordd lle mae’r eiddo, gan dybio fod enw’r ffordd yn un a ddynodwyd yn swyddogol (yn hytrach nag enw ffordd answyddogol a ddefnyddir yn lleol).
Mewn ardaloedd trefol, lle mae llawer o adeiladau’n agos at ei gilydd ar strydoedd wedi’u rhifo, bydd y Post Brenhinol yn cyhoeddi codau post yn cyfeirio at enwau’r strydoedd. Mae’n amlwg y caiff enwau’r strydoedd hyn wedyn eu cynnwys yn y cyfeiriad.
Fodd bynnag, mewn ardaloedd gwledig, yn aml mae cartrefi anghysbell ar ddarnau hir o ffyrdd gwledig; yn hytrach na dyrannu cod post ar gyfer ffordd gyda dim ond ychydig o adeiladau, mae’n tueddu i ddyrannu codau post daearyddol. Lle defnyddir cod post daearyddol, ni chaiff enw’r ffordd ei gynnwys yn y cyfeiriad post.
I gael mwy o wybodaeth, cliciwch yma
Pwy sy’n cael gwybod am newid enwau a chyfeiriadau newydd?
Caiff yr adrannau dilynol (o fewn Cyngor Sir Fynwy) a sefydliadau eu hysbysu pan gaiff cyfeiriad newydd ei greu neu pan mae cyfeiriad yn newid:
- BT Openreach;
- Treth Gyngor (Cyngor Sir Fynwy);
- Dŵr Cymru;
- Etholiadau (Cyngor Sir Fynwy);
- Iechyd yr Amgylchedd (Cyngor Sir Fynwy);
- Cofrestrfa Tir;
- Pridiannau Tir (Cyngor Sir Fynwy);
- NLPG (National Land and Property Gazetteer);
- Wales & West Utilities;
- Heddlu Gwent;
- Post Brenhinol;
- Gwasanaeth Ambiwlans Cymru;
- Tân ac Achub De Cymru;
- Tîm SRS GIS (Cyngor Sir Fynwy);
- Swyddfa Prisiant;
- Gwasanaethau Gwastraff a Strydoedd (Cyngor Sir Fynwy);
A ellir newid enw fy ffordd?
Gellir, mewn rhai amgylchiadau. Fodd bynnag, mae’n weithdrefn ddrud, cymhleth, dadleuol a hir. Anfonwch e-bost at contact@monmouthshire.gov.uk neu ffonio 01633 644644 a gofyn am Enwi a Rhifo Strydoedd i gael mwy o wybodaeth.
Beth yw’r fframwaith cyfreithiol?
Mae enwi strydoedd ac enwi a rhifo eiddo yn gyfrifoldeb statudol dan Adrannau 17-19 Deddf Iechyd Cyhoeddus 1925. Mae hyn er mwyn sicrhau y caiff unrhyw enwau newydd neu ddiwygiedig ar gyfer strydoedd ac eiddo a/neu rifau eu dyrannu’n rhesymegol ac mewn modd cyson.
Nid oes gan y Post Brenhinol unrhyw rym statudol i enwi stryd, enw neu rif eiddo neu ail-enwi neu ail-rifo eiddo; fodd bynnag, ef sy’n llwyr gyfrifol am gyhoeddi neu newid codau post unwaith y mae’r cyngor wedi cadarnhau manylion y cyfeiriad.
I gael mwy o wybodaeth am y fframwaith cyfreithiol, gweler ein Polisi Enwi a Rhifo Strydoedd.