Gosodwr Maes/Ardal Chwarae
Mae Gwasanaethau Tiroedd a Glanhau yn darparu gwasanaeth hanfodol wrth sicrhau fod y Sir yn cyflawni ei nod o ddarparu amgylchedd glân, diogel a chynaliadwy. Bydd gweithwyr meysydd chwarae, naill ai’n gweithio ar ben eu hunain neu fel tîm, yn cynnal mannau agored cyhoeddus, ymylon priffyrdd, priffyrdd, plannu, parciau, mynwentydd, ysgolion a safleoedd contract. Byddant hefyd yn ymgymryd â phob agwedd o osod meysydd chwarae, arolygu gwaith trwsio a chynnal a chadw ar sail fewnol ac allanol, tirlunio caled yn cynnwys gosod llwybrau troed, meinciau, biniau sbwriel, ffensio a gwaith carreg ac yn y blaen. Bydd hyn yn helpu i ddarparu amgylchedd gwyrdd a chynaliadwy safon uchel.
Y rhan fwyaf o’r amser bydd deiliad y swydd yn ymgymryd â gweithgareddau cysylltiedig â gosod offer chwarae ledled Sir Fynwy a De Cymru ar sail fewnol a chontract allanol. Bydd hefyd angen i ddeiliad y swydd fod â gwybodaeth ardderchog o bob agwedd o gynnal a chadw tiroedd a thirlunio caled.
Bydd y swydd yn cefnogi ac yn annog aelodau eraill o’r tîm tra maent yn ymgymryd â darpariaeth eang ac amrywiol o osod meysydd chwarae, arolygu a chynnal a chadw ynghyd â gweithgareddau cysylltiedig â thiroedd yn cynnwys, ond heb ei gyfyngu i, waith garddwriaethol, tirlunio caled a meddal a phob gweithgaredd cysylltiedig.
Bydd angen i’r Gosodwr Meysydd Chwarae gydweithio gydag aelodau eraill o’n timau Tiroedd. Byddai deiliad y swydd yn sicrhau bod cyflwyniadau priodol, cyfarwyddiadau, arferion gwaith diogel ac asesiadau risg ar gael.
Mae’n rhaid i ddeiliad y swydd hefyd fedru arddangos y sgiliau canlynol: arweinyddiaeth, medru rhoi cyfarwyddyd a dehongli, gwaith tîm, gweithio’n agos o fewn tîm a chyfathrebu, gan weithio’n agos gyda’r cyhoedd.
Cyfeirnod Swydd: OPWSMON32
Gradd: BAND F SCP 19 – SCP 23 £31,067 - £33,366
Oriau: 37 yr wythnos.
Lleoliad: Depot Llanfihangel Troddi (Trefynwy)
Dyddiad Cau: 22/11/2024 12:00 pm
Dros dro: Na
Gwiriad DBS: Na