Skip to Main Content

Cwestiynau CyffredinTachwedd 2024

Mae gan y Cyngor ddyletswydd gyfreithiol a rhwymedigaeth foesol i helpu pobl ddigartref. Mae’n ofynnol i’r Cyngor ddarparu gwasanaeth digartrefedd a, phan fo angen, darparu llety o ansawdd da.

Mae gan y Cyngor, fel llawer o awdurdodau lleol eraill, brinder tai cymdeithasol a llety digartrefedd. O ganlyniad, mae angen i’r Cyngor ddefnyddio lleoliadau Gwely a Brecwast. Mae hwn yn llety cwbl anaddas ac yn ddrud i’w ddarparu. Mae’r Cyngor yn ceisio mynd i’r afael â hyn.

Oherwydd bod trefniadau amgen ar gael ym Mhorthsgiwed ar gyfer y defnydd cartref gofal preswyl blaenorol, mae’r adeilad bellach yn wag ac mae’n gyfle i’r Cyngor ail-ddefnyddio’r safle i ddarparu llety gwell i’r digartref a helpu i fynd i’r afael gyda’r defnydd o leoliadau Gwely a Brecwast anaddas.

Mae’r Cyngor wedi cyhoeddi cynigion ar ail-bwrpasu Severn View at ddibenion digartrefedd drwy nifer o drefniadau uniongyrchol ac anuniongyrchol, ac mae rhai ohonynt wedi cynnwys gwahoddiadau i breswylwyr i roi adborth. Dyma nhw:

  • Roedd Severn View, ymhlith cynigion eraill, yn un o gynigion y Cyngor mewn perthynas ag ystyriaethau gosod cyllideb y Cyngor ar gyfer 2024/25.
  • Ymwelwyd ag aelodau etholedig lleol i godi ymwybyddiaeth o’r cynnig.
  • Ystyriwyd y cynnig gan y Cabinet ar 22ain Mai2024, a chyhoeddwyd y manylion cyn y cyfarfod.
  • Er mwyn ail-ddefnyddio Severn View at ddibenion digartrefedd, roedd yn ofynnol i’r Cyngor gael caniatâd newid defnydd o dan reoliadau Cynllunio. Cymeradwywyd newid defnydd, yn amodol ar nifer o amodau ar 16eg Gorffennaf2024. Ymgynghorodd gwasanaeth Cynllunio’r Cyngor ar y cais cynllunio. Rhoddwyd rhybudd safle wrth y fynedfa i’r safle ar Ffordd Mounton a chysylltwyd yn uniongyrchol â nifer o dirfeddianwyr/cymdogion cyfagos drwy lythyr yn eu hysbysu o’r cais ac yn gwahodd sylwadau.

Mae’r Cyngor wedi derbyn adborth cymunedol am Severn View yn cael ei ddefnyddio at ddibenion digartrefedd. Croesewir yr adborth hwn ac unrhyw adborth dilynol a dderbynnir yn y dyfodol. Bydd yr holl adborth presennol ac yn y dyfodol yn cael ei ystyried er mwyn llywio datblygiad y prosiect ymhellach cyn ac ar ôl agor.

Cynigir y bydd diwrnod ‘galw heibio’ yn cael ei drefnu ar gyfer cymdogion agos cyn agor er mwyn galluogi cymdogion i edrych o gwmpas, darganfod mwy a chwrdd â’r holl staff. Bydd dyddiad ac amser yn cael eu gosod yn nes at yr amser.

Mae angen llety digartrefedd a thai ychwanegol ar y Cyngor ym mhob un o brif drefi Sir Fynwy. Mae angen amrywiaeth o fathau o lety o wahanol feintiau ar y Cyngor hefyd. Mae angen arbennig am lety i bobl sengl. Mae dod o hyd i lety ychwanegol yn flaenoriaeth barhaus gan y Cyngor. Tra bod y Cyngor yn cynllunio ymlaen llaw ar gyfer llety newydd, gall yr amser paratoi fod yn hir. Mae’r Cyngor, felly, hefyd yn chwilio’n barhaus am gyfleoedd posibl ar gyfer tai ychwanegol. Mae Severn View bellach yn wag ac mae’r safle yn cynnig cymaint o gyfleoedd.

Tra bod angen llety ar y Cyngor ym mhob un o’r prif drefi ac yn blaenoriaethu yn unol â hynny, gall fod yn anoddach pennu lleoliad, math a maint y llety. Fodd bynnag, bydd y Cyngor bob amser yn gwerthuso addasrwydd unrhyw gyfleoedd llety posibl yn ofalus a bydd ond yn symud ymlaen os ystyrir bod eiddo’n addas a bod angen wedi’i nodi.

Mae anghenion y gymuned gyfagos yn flaenoriaeth i’r Cyngor. Nid yw’r Cyngor eisiau i ddefnydd o’r eiddo gael effaith andwyol ar y gymuned bresennol.

Mae’r perthnasau a fydd yn cael eu creu gydag eiddo/cartrefi presennol yn yr ardal wedi’u hystyried. Y nod yw cyflawni a cynnal pellter gwahanu priodol drwy leoliad y llety a’r ardaloedd amwynder, gan ddefnyddio’r bloc deheuol. Bydd hyn yn gwella preifatrwydd trigolion a’r eiddo cyfagos presennol. Bydd strategaethau rheoli mewnol ac allanol yn ceisio cadw trigolion i ochr ddwyreiniol y safle, gan wneud y mwyaf o bellteroedd preifatrwydd.

Bydd gorchudd yn cael ei osod ar y ffenestri er mwyn sicrhau preifatrwydd.

Bydd y tirlunio a’r planhigion/coed presennol yn cael eu cynnal er mwyn hwyluso preifatrwydd.

Mae effaith y cynnig mewn perthynas â defnyddiau cyfagos hefyd wedi ei ystyried. Mae Regents Way yn briffordd gyhoeddus ac nid yw at ddefnydd trigolion Severn View yn unig ac mae’n stryd weithredol sy’n cael ei defnyddio gan bobl/defnyddwyr mewn cysylltiad â’r feithrinfa, yr orsaf dân a’r ganolfan iechyd a wasanaethir o’r briffordd hon. Yn wir, o’i gyfuno â newidiadau ffisegol yn lefelau’r briffordd, yn ogystal â phresenoldeb teledu cylch cyfyng presennol ar y stryd, mae hyn yn lleihau’r pryder y byddai’r ardal yn destun ymddygiad gwrthgymdeithasol, heb i neb sylwi arno ar unwaith a mynd i’r afael â hi gyda mesurau priodol. Bydd y bwriad i osod teledu cylch cyfyng yn gorchuddio mynedfeydd y safle hefyd yn darparu mesur lliniaru pellach.

Nid yw’r Cyngor yn rhagweld cynnydd net yn nifer y bobl sy’n byw yng Nghas-gwent o ganlyniad uniongyrchol i ddefnyddio Severn View ar gyfer digartrefedd.

Disgwylir i’r preswylwyr cychwynnol symud i mewn o lety digartref llai addas. Felly, bydd trigolion newydd Severn View eisoes yn byw yn y gymuned.

Bydd Severn View fel cyfleuster newydd yn galluogi’r Cyngor i roi’r gorau i ddefnyddio llety digartref llai addas, fel Gwely a Brecwast.

Fodd bynnag, nid oes gan y Cyngor unrhyw reolaeth dros benderfyniadau gan berchnogion preifat o ran sut y gallant ddefnyddio eu heiddo ar ôl i’r Cyngor ddod ag unrhyw berthynas â pherchennog i ben.

Ni ragwelir y bydd newid y defnydd a wneir o’r adeilad yn cael effaith andwyol ar yr isadeiledd lleol na chyfleusterau lleol gan nad y bwriad yw cynyddu nifer y bobl ddigartref yn ardal Cas-gwent drwy agor Severn View.

Fodd bynnag, mae’r Cyngor bob amser yn ceisio nodi cyfleoedd i wella holl drefi Sir Fynwy, gan gynnwys Cas-gwent fel tref a chynyddu/gwella gwasanaethau. Mae enghreifftiau allweddol yn cynnwys Trawsnewid Cas-gwent – Cynllun Creu Lle (Medi 2023) a’r Cynllun Datblygu Lleol Amnewid.

Bydd yr eiddo ar gael i bobl y mae gan y Cyngor ddyletswydd i ddarparu llety dros dro iddynt a lle gallant fyw nes bod cartref parhaol a sefydlog ar gael. Mae angen i unrhyw un sydd angen gwneud cais am gymorth digartrefedd gwblhau cais digartrefedd. Mae hyn yn llywio cyfrifoldebau digartrefedd cyfreithiol y Cyngor. Mae’r broses hefyd yn nodi ac yn ystyried risg, sy’n hysbysu a yw person yn addas ar gyfer eiddo neu ei leoliad.

I ddechrau, trigolion cyntaf Severn View fydd pobl sydd eisoes yn byw yn y gymuned leol ac sydd ar hyn o bryd yn derbyn cymorth a chefnogaeth gan y Cyngor ac asiantaethau cymorth.

Mae’r mwyafrif y bobl a’r aelwydydd y mae’r Cyngor yn eu cynorthwyo gyda darparu tai cyffredinol a digartrefedd yn breswylwyr yn Sir Fynwy. Bydd angen i’r rhai sy’n gwneud cais digartrefedd ddangos cysylltiad lleol â Sir Fynwy. Yn nodweddiadol, mae’r rhan fwyaf o bobl sy’n gwneud cais i’r Cyngor am gymorth digartrefedd eisoes yn byw yn Sir Fynwy.

Bydd y safle yn cael ei reoli o ddydd i ddydd gan Gydlynydd Cynllun a fydd yn gweithio yn Severn View yn ystod oriau swyddfa arferol ac yn goruchwylio a chydlynu’r gwaith o reoli’r adeilad. Y Cydlynydd Cynllun fydd y prif bwynt cyswllt ar gyfer ymholiadau o ddydd i ddydd yn ymwneud â’r prosiect neu’r adeilad.

Bydd Severn View yn dod o dan reolaeth gwasanaeth digartrefedd y Cyngor, sef cyfrifoldeb y Rheolwr Tîm Opsiynau Tai, gyda chefnogaeth Uwch Swyddog Tîm Llety Dros Dro.

Bydd Swyddog Llety ymweliadol hefyd yn cefnogi’r gwaith o reoli Severn View ac yn gweithio’n agos gyda’r Cydlynydd Cynllun.

Mae’r Cyngor ar hyn o bryd yn y broses o benodi dau Swyddog Cymorth penodedig, drwy asiantaeth cymorth partner.  Bydd y ddau Swyddog Cymorth yn gweithio yn Severn View yn ystod yr wythnos i ymgysylltu’n uniongyrchol â’r preswylwyr a’u cefnogi.

Bydd dau Swyddog Gofalu yn bresennol 24/7. Mae’r rhain yn cael eu cyflogi ar hyn o bryd gan gontractwr allanol, sydd yn meddu ar brofiad o gefnogi rheolaeth sefydliadau digartref ac ymgysylltu â’r gymuned leol.

Bydd glanhawr yn ymweld am 3 awr y dydd, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Mae’r Cyngor eisiau bod yn ‘gymydog da’ ac nid yw am i’r cynllun gael effaith andwyol ar yr ardal leol. Mae’r Cyngor yn awyddus bod cymdogion cyfagos yn adnabod staff Severn View a bod modd datblygu perthynas gadarnhaol.

Cyn agor, mae’r Cyngor yn cynnig trefnu sesiwn galw heibio ar gyfer cymdogion cyfagos er mwyn ‘cwrdd â’r staff’. Bydd hwn yn gyfle i gymdogion gwrdd â staff sy’n ymwneud â rheoli’r cynllun a dod i’w hadnabod. Bydd y dyddiad a’r amser yn cael eu pennu yn nes at yr amser agor

Cyn ac ar ôl agor, bydd y Cyngor yn hapus i ymateb i unrhyw ymholiadau gan unrhyw gymdogion sydd eisiau gwybod mwy.

Ystyrir bod y lefelau staffio sy’n cael eu sefydlu ar gyfer rheoli Severn View a chefnogi preswylwyr yn briodol fel bod modd gweithredu’r prosiect yn llwyddiannus a’n sicrhau canlyniadau cadarnhaol. Er bod y Cyngor yn hyderus y bydd y lefelau staffio y cytunwyd arnynt yn ddigonol, bydd trefniadau staffio eu hadolygu’n barhaus.

Yn sicr. Bydd y Cyngor yn cyflogi dau Swyddog Gofalu a fydd yn bresennol 24 awr y dydd.

Bydd camerâu teledu cylch cyfyng yn cael ei osod o fewn yr adeilad ac mewn mannau allweddol y tu allan i’r adeilad. Cynigir y bydd y camerâu teledu cylch cyfyng yn gorchuddio’r ddwy giât mynediad. Bydd hyn yn cael ei fonitro gan y Swyddogion Gofalu.

Mae gan yr adeilad system mynediad sy’n ymestyn i’r brif giât fynedfa bresennol.

Bydd gatiau ychwanegol yn cael eu gosod o amgylch yr adeilad i atal eraill rhag cael mynediad heb awdurdod.

Bydd teledu cylch cyfyng canol tref presennol yn gorchuddio’r fynedfa i Regents Place. Ar hyn o bryd nid yw hyn yn cynnwys Regents Place i gyd. Gellir gosod camera ychwanegol os bydd angen a bydd yn cael ei adolygu’n barhaus.

Bydd rheoli Severn View o ddydd i ddydd drwy’r Cydlynydd Cynllun, a fydd wedi’i leoli ar y safle yn ystod oriau swyddfa arferol a bydd yn bwynt cyswllt ar gyfer ymholiadau sy’n codi.

Mae’r Cyngor wedi penderfynu mai dim ond rhan o’r adeilad fydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer llety digartref. Bydd 17 ystafell yn cael eu defnyddio yn yr adain ddeheuol. Bydd yr ystafelloedd yn yr adain ogleddol yn parhau’n wag.

Er mwyn paratoi ar gyfer defnyddio Severn View, bydd rhywfaint o’r gwaith y mae’r Cyngor yn ei gynnig yn helpu gyda rheolaeth yr adeilad. Er enghraifft, gatiau allanol ychwanegol a gosod teledu cylch cyfyng.

Mae’r broses ar gyfer yr holl leoliadau llety tai, sydd hefyd yn cynnwys lleoliadau digartrefedd, yn cynnwys asesiad risg trwyadl i helpu i lywio addasrwydd llety a’i leoliad. Bydd y weithdrefn hon yn berthnasol i leoli pobl yn Severn View. Bydd asiantaethau eraill, gan gynnwys yr Heddlu, os yn berthnasol, yn rhan o’r weithdrefn. Mae ystyriaethau diogelu a diogelwch cymunedol yn rhan o’r broses asesu risg. Ni fydd unrhyw un yr aseswyd ei fod yn anaddas ac a ystyrir yn risg i drigolion eraill Severn View neu’r gymuned gyfagos, yn cael ei leoli yno.

Amod deiliadaeth ar gyfer yr holl breswylwyr fydd yr angen i arwyddo cytundeb meddiannaeth. Mae hwn yn nodi cyfrifoldebau’r trigolion a’r Cyngor. Gallai methiant unrhyw breswylydd i gydymffurfio â’u cytundeb olygu y bydd yn rhaid iddynt roi’r gorau i’w llety a gadael Severn View.

Bydd y Cydlynydd Cynllun, y Swyddog Llety a’r Gweithwyr Cefnogi Tai yn cysylltu’n agos â phreswylwyr os bydd unrhyw faterion yn codi sy’n ymwneud â’u lle yn Severn View. Efallai y bydd y Cyngor yn ceisio cynnwys asiantaethau eraill os oes angen.

Bydd y Staff Gofalu hefyd yn helpu gyda rheolaeth yr adeilad.

Ni fydd preswylwyr yn cael ymwelwyr.

Yn sicr. Eto, mae’r Cyngor yn dymuno bod yn gymydog da ac nid yw am i’r defnydd o Severn View gael effaith andwyol ar y gymdogaeth leol. Bydd y rôl Cydlynydd Cynllun   a’r Swyddogion Gofalu ar y safle yn ymestyn i oruchwylio cwrtil allanol Severn View. Os bydd angen, bydd staff yn cysylltu’n agos â’r Heddlu a’r tîm Diogelwch Cymunedol.

Bwriedir monitro’r fynedfa i gerbydau oddi ar Ffordd Mounton a’r fynedfa i gerddwyr ar Regents Place. Bydd y teledu cylch cyfyng presennol ar y stryd yn cael ei ddefnyddio at y diben hwn, a fydd yn cael ei ymestyn os ystyrir bod angen hynny.

Llety dros dro i’r digartref yw Severn View. Nid yw’n gartref parhaol. Gall preswylwyr fyw yno nes bod llety sefydlog parhaol ar gael iddynt, fel arfer ond nid o reidrwydd yn gyfan gwbl, trwy dai cymdeithasol a ddarperir gan Gymdeithas Tai Sir Fynwy, Pobl neu Cartrefi Melin.

Nod y Cyngor yw cefnogi trigolion i symud ymlaen i dai parhaol cyn gynted â phosibl. Fodd bynnag, bydd hyd y cyfnod preswyl yn amrywio rhwng preswylwyr ond bydd yn dibynnu i raddau helaeth ar amgylchiadau unigol, gan gynnwys lle maent am fyw.

Gweledigaeth y Cyngor yw y bydd Severn View yn rhan annatod o’r gymuned.  Ar hyn o bryd nid oes unrhyw gynlluniau penodol, ond mae’r Cyngor eisoes wedi dechrau ystyried sut y gellid defnyddio’r swm rhyfeddol o ofod dibreswyl, at ddibenion rheoli’r cynllun ac er budd y trigolion. Er enghraifft, defnyddio’r gofod ar gyfer darparu cymorth megis digwyddiadau sgiliau bywyd/hyfforddiant/gweithdai neu hwyluso rhwydweithio ar gyfer gweithwyr proffesiynol ac asiantaethau sy’n darparu cymorth.

Swyddogaeth y Swyddog Cymorth penodedig fydd nodi cyfleoedd i wneud defnydd llawn o’r gofod dibreswyl ac arwain ar ddatblygu cyfleoedd a fydd o fudd i drigolion, a allai gynnwys ymgysylltu â grwpiau gwirfoddol lleol o bosibl. Mae’r ardd a’r tiroedd hefyd yn gyfle posibl yn hyn o beth.

Gofynnwyd i’r Cyngor hefyd a oes lle i’r gymuned ddefnyddio unrhyw rai o’r cyfleusterau a allai fod ar gael.  Mae defnydd llawn o’r cyfleusterau eto i’w benderfynu. Byddai unrhyw geisiadau yn cael eu hystyried ar ôl eu derbyn.

Mae’r Cyngor yn croesawu unrhyw feddyliau neu syniadau a allai gyfrannu at integreiddio’r cynllun yn llawn i’r gymuned leol, cyflawni canlyniadau cadarnhaol i drigolion a rheoli’r cynllun yn llwyddiannus.

Yr amserlen fras yw bod y gwaith i fod i ddechrau yn ystod Tachwedd 2024 a disgwylir ei gwblhau ym mis Chwefror 2025. Bydd y Cyngor yn anelu bod y trigolion newydd symud i mewn cyn gynted â phosibl wedi hynny.

Yn sicr. Bydd rhifau cyswllt ac e-bost ar gael i alluogi cymdogion i gysylltu’n uniongyrchol â’r Cydlynydd Cynllun Severn a’r Tîm Opsiynau Tai.