Technoleg Clyfar
Mae’r Gwasanaethau Technoleg Gynorthwyol yn darparu atebion technolegol i gefnogi a galluogi pobl i fyw’n gyfforddus ac yn ddiogel yn eu cartrefi eu hunain, gan hyrwyddo lles, annibyniaeth, tawelwch meddwl, tra’n darparu tawelwch meddwl, diogelwch, sicrwydd ac fel mesur i’ch amddiffyn.
Wrth i Dechnoleg Gynorthwyol ddatblygu, mae ein gwasanaeth yn ehangu i ddarparu offer mwy rhyngweithiol ac ataliol a fydd o gymorth gyda
- Materion yn ymwneud â chof dementia er enghraifft crwydro neu ddiogelwch yn y cartref.
- Atal Cwympo – defnyddio technoleg i atal disgyn yn y nos, er enghraifft, defnyddio systemau clyfar i droi goleuadau ymlaen wrth lywio o amgylch y tŷ yn y tywyllwch.
- Lleihau’r risg o arwahanrwydd cymdeithasol – offer sy’n darparu cyswllt â theulu neu chwarae cerddoriaeth.
- Monitro yn y cartref os ydych yn pryderu am arferion cysgu neu fwyta aelod o’ch teulu.
- Nodiadau atgoffa meddyginiaeth ac offer i ddangos dyddiad/diwrnod ac amser o’r dydd.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael drwy gysylltu â’r Gwasanaeth Technoleg Gynorthwyol drwy e-bostio assistivetech@monmouthshire.gov.uk neu drwy ffonio 01633 644644.
Lle byddwn yn trafod eich cyflyrau iechyd ac yn cynghori pa dechnoleg glyfar fyddai’n addas.
Faint mae gwasanaeth Technoleg Glyfar yn ei gostio?
- Ffi gosod unigol yn dechrau o £50.00
- Costau’n dechrau o £21.75 y mis (yn cynnwys eich offer)
I weld y Dechnoleg Gynorthwyol sydd ar gael ar hyn o bryd, ewch i: @ssistivetech Sir Fynwy – dewis cynnyrch Technoleg Gynorthwyol
Hyb Technoleg Gynorthwyol!
Mae’r Hyb yn cynnwys dwy ystafell ryngweithiol – Ystafell Wely Technoleg Gynorthwyol ac Ystafell Fyw Technoleg Glyfar – sy’n dangos y gwahanol ddatrysiadau technolegol sydd ar gael i gefnogi a galluogi pobl i fyw’n gysurus a diogel ac yn eu cartrefi eu hunain. Darllen Mwy >
Cwestiynau ac Atebion
Darllenwch ein Cwestiynau ac Atebion Cyffredin ar gyfer Technoleg Gynorthwyol a Thechnoleg Glyfar..