Ystafell Technoleg Gynorthwyol

Larwm Lifeline
Llinell uniongyrchol i’r Ganolfan Derbyn Larymau 24/7.

Synhwyrydd gadael yr eiddo
Wedi’i gysylltu â’r Lifeline gan ddefnyddio blwch rheoli / a magnetau drws wedi’u gosod ar y prif ddrysau i fynd allan o’r tŷ, gellir gosod y rhain ar adegau pan fo’r risg o grwydro yn uwch.

Synhwyrydd CO
Bydd y Synhwyrydd Carbon Monocsid yn canu unwaith y bydd carbon monocsid wedi’i ganfod, a bydd hyn yn hysbysu’r Ganolfan Derbyn Larymau a fydd yn cynnig cyngor.

Synhwyrydd Cadair
Bydd Synhwyrydd Cadair yn rhoi gwybod i’r Ganolfan Derbyn Larymau os na fydd y person yn dychwelyd o fewn yr amserlen benodol.

Synhwyrydd llifogydd
Unwaith y bydd y synhwyrydd llifogydd hwn yn dod o hyd i ddŵr, bydd yn rhybuddio’r Ganolfan Derbyn Larymau.

Crogdlws
I’w wisgo naill ai o amgylch yr arddwrn neu’r gwddf – mae hwn wedi’i gysylltu ag uned a fydd yn ffonio’r Ganolfan Derbyn Larymau pan fo angen cymorth.

Synhwyrydd Cwympo
Synhwyrydd Cwympo Pwrpas Deuol yw hwn, ac mae’n cael ei sbarduno os yw person yn cwympo neu wasgu’r botwm argyfwng a bydd wedyn yn ffonio’r Ganolfan Derbyn Larymau.

Synhwyrydd gwely
Bydd Synhwyrydd Gwely yn rhoi gwybod i’r Ganolfan Derbyn Larymau os na fydd y person yn dychwelyd o fewn yr amserlen benodol.

Canolfan Derbyn Larymau 24/7
Mae pob galwad brys yn mynd i’r gweithredwyr a byddant yn helpu i dawelu meddwl neu’n ffonio’r gwasanaethau brys ar gyfer ein defnyddwyr gwasanaeth.

Larwm Mwg
Synhwyrydd Mwg yw hwn sy’n gysylltiedig â’r ganolfan fonitro; bydd yn rhaid iddynt ddilyn y protocol ac os na roddir ateb dibynadwy, bydd y Frigâd Dân yn cael ei anfon.
Technoleg Glyfar Lolfa

Cloch Drws Fideo
Gall cloch drws fideo y gellir ei gysylltu ag Alexa a thrwy sgrin siarad â rhywun wrth y drws ffrynt o gysur y gadair freichiau.

Seinydd Clyfar
Chwaraewch gerddoriaeth, trefnwch pethau i’ch atgoffa, ychwanegwch at restr siopa, gofynnwch pa ddiwrnod yw hi. Gwnewch galwadau sain i deulu a ffrindiau. Yn cysylltu gyda Theclynnau Clyfar eraill.

Seinydd Clyfar a’r Dangosydd
Chwaraewch gerddoriaeth, gofynnwch am y tywydd, gofynnwch pa ddiwrnod yw hi. Siaradwch gyda’ch ffrindiau drwy alwad fideo, a threfnwch nodiadau atgoffa i gymryd eich meddyginiaeth. Yn cysylltu gyda Theclynnau Clyfar eraill.

Cau’r Llenni
Yn gweithio ag Alexa. Gorchymyn llais i agor a chau’r llenni, gan greu annibyniaeth a diogelwch.

Llechen
Gellir defnyddio’r llechen ar y cyd â’r Seinydd Clyfar a all hwyluso’r dechnoleg glyfar o amgylch y cartref – Goleuadau – Plygiau Clyfar ac ati.

Synhwyrydd symud
Pan fydd Y synhwyrydd hwn yn synhwyro unrhyw symudiad, gellir troi/diffodd y goleuadau.

Plyg Clyfar
Gall y Plygiau Clyfar hyn wneud unrhyw declyn yn Declyn Clyfar. e.e teledu, ffan, lampau

Synhwyrydd Ffenestri
Yn anfon negseuon i’r ffôn clyfar bod ffenestr neu ddrws wedi’i agor / cau.

Bwlb Golau Clyfar
Bylbiau golau wedi’u cyfarwyddo â llais, ac unwaith y maent cysylltu â seinydd clyfar, yn cynnig annibyniaeth a sicrwydd.

Ci rhyngweithiol
Defnyddir ar gyfer cefnogaeth emosiynol a chwmni.

Cath rhyngweithiol
Defnyddir ar gyfer cefnogaeth emosiynol a chwmni.

Cwtch
Defnyddir ar gyfer cefnogaeth emosiynol a chwmni.

Komp
Gall teulu lawrlwytho ap a gwneud galwadau fideo, anfon neges destun ac anfon lluniau.
Caiff Careline hefyd ei alw yn Telecare. Mae’r gwasanaeth yn darparu offer i helpu pobl i fyw’n ddiogel yn eu cartrefi eu hunain.
Ffôn: 01633 644644