Skip to Main Content

Technoleg Gynorthwyol a Chlyfar: Yn Cadw Teuluoedd Gyda’I Gilydd

Mae mam a merch yn byw’n annibynnol gartref, diolch i Dechnoleg Gynorthwyol a Chlyfar Cyngor Sir Fynwy. Maent wedi cofleidio technoleg fodern, gan ganiatáu iddynt fwynhau eu cartref cyfan gyda’I gilydd, yn gyfforddus ac yn ddiogel.

Darllenwch Fwy > Yn Cadw Teuluoedd Gyda’I Gilydd

Cwestiynau ac Atebion

Darllenwch ein Cwestiynau ac Atebion Cyffredin ar gyfer Technoleg Gynorthwyol a Thechnoleg Glyfar.

Darllenwch Fwy > Cwestiynau ac Atebion

Atal Cwympiadau – gyda Thechnoleg Gynorthwyol Sir Fynwy

Mae Cyngor Sir Fynwy yn falch o gefnogi Wythnos Atal Cwympiadau rhwng 23ain a’r 27ain Medi 2024. Mae atal cwympiadau yn hanfodol nid yn unig i osgoi anafiadau ond hefyd i gynnal annibyniaeth, urddas ac ansawdd bywyd. Mae llawer o gamau y gallwch eu cymryd i leihau eich risg o gwympo.

Atal Cwympiadau – gyda Thechnoleg Gynorthwyol Sir Fynwy – Monmouthshire

Dewch i weld yr Hyb Technoleg newydd!

Gan gynnwys Ystafell Wely ac Ystafell Fyw Technoleg Glyfar @assitivetech. Wedi’i leoli yn Ysbyty Cymunedol Cas-gwent. Darllenwch Fwy >

Mae’r broses newid i ddigidol eisoes wedi dechrau….

Yn draddodiadol, mae galwadau ffôn llinell dir wedi’u cyflwyno dros rwydwaith analog. Mae’r rhwydwaith hwn yn hen ffasiwn ac yn mynd yn anos ac yn ddrutach i’w gynnal, felly mae angen cael un newydd yn ei le. Mae’r DU yn symud i rwydwaith ffôn digidol erbyn diwedd 2025 ac felly mae darparwyr telathrebu yn newid i system llais digidol. Darllenwch Fwy >

Astudiaethau Achos a Geirdaon

Mae @assitivetech Sir Fynwy yn wasanaeth lleol, sy’n cynnig cymorth personol i bobl yn Sir Fynwy. Yn fwy na gwasanaeth, mae @assistivetech yn helpu pobl i deimlo’n ddiogel yn eu cartrefi eu hunain, gan wybod bod staff cyfeillgar a chymwynasgar ar gael unrhyw adeg o’r dydd, unrhyw ddiwrnod o’r flwyddyn. Darllenwch Fwy >