Skip to Main Content

Wythnos Atal Cwympiadau

Mae Cyngor Sir Fynwy yn falch o gefnogi Wythnos Atal Cwympiadau rhwng 23ain a’r 27ain Medi 2024. Mae atal cwympiadau yn hanfodol nid yn unig i osgoi anafiadau ond hefyd i gynnal annibyniaeth, urddas ac ansawdd bywyd. Mae llawer o gamau y gallwch eu cymryd i leihau eich risg o gwympo.

Pwysigrwydd Atal Cwympiadau

Mae cwympiadau yn bryder sylweddol, yn enwedig i oedolion hŷn, neu bobl â symudedd cyfyngedig. Gallant arwain at anafiadau difrifol, gorfod mynd i’r ysbyty, colli annibyniaeth, a dirywiad mewn llesiant cyffredinol. Fodd bynnag, mae modd atal llawer o gwympiadau gyda’r mesurau cywir yn eu lle. Drwy gymryd camau rhagweithiol, gall unigolion leihau’n sylweddol eu risg o gwympo a pharhau i fyw’n ddiogel ac yn gyfforddus yn eu cartrefi eu hunain.

Mae ein Gwasanaeth Technoleg Gynorthwyol yn cynnig atebion arloesol i helpu unigolion i fyw’n ddiogel, yn saff ac yn gyfforddus yn eu cartrefi eu hunain

Rôl Technoleg Gynorthwyol

Mae technoleg gynorthwyol yn chwarae rhan hanfodol mewn atal cwympiadau. Mae’r atebion technolegol hyn wedi’u cynllunio i gefnogi a galluogi pobl i fyw’n annibynnol tra’n lleihau’r risg o gwympo.

Dyma rai o’r Technolegau Cynorthwyol allweddol a all helpu:

Lifeline a Synhwyrydd Cwympo

Mae’r Synhwyrydd Cwympo sy’n cael ei wisgo ar eich garddwrn yn synhwyrydd pwrpas deuol sydd â mesurydd cyflymu. Os yw’n canfod fod person wedi disgyn ar gyflymder a bod yna effaith sylweddol ac nad yw’n synhwyro’r unigolyn yn codi’n ôl o fewn cyfnod byr, bydd yn anfon rhybudd yn awtomatig i ganolfan monitro Lifeline. Mae wyneb yr uned yn cynnwys botwm brys y gellir ei wasgu mewn argyfyngau hefyd. Bydd pob gweithrediad o’r synhwyrydd i Lifeline yn rhybuddio’r gweithredwr, a fydd yn gwirio llesiant y person ac yn galw am ymatebwyr os oes angen.



‘Echo Show’ neu ‘Dot’ yn gysylltiedig â Bylbiau Golau Clyfar, Plygiau Clyfar

Er mwyn lleihau’r risg o gwympo yn ystod y nos, gellir gosod bylbiau golau clyfar yn yr ystafell wely, y cyntedd a’r ystafell ymolchi. Gellir gosod y bylbiau hyn i droi ymlaen naill ai ar amserydd neu drwy orchmynion llais. Drwy ddarparu golau ar y daith i’r ystafell ymolchi, er enghraifft, mae’r goleuadau clyfar hyn yn helpu i sicrhau gwelededd gwell yn y nos, a thrwy hynny’n lleihau’r risg o gwympo.



Cloch Drws Fideo

Gellir cysylltu Cloch y Drws Fideo ag Alexa, gan ganiatáu i chi siarad â rhywun wrth y drws ffrynt trwy sgrin o gysur eich cadair freichiau. Mae hyn yn lleihau’r angen i godi i ateb y drws neu ruthro ato, a thrwy hynny’n lleihau’r risg o gwympiadau posibl.



Bylbiau Golau Clyfar a Synhwyrydd  Symudiadau

Mae bylbiau golau sy’n cael eu cyfarwyddo gan lais unigolyn, o’u cysylltu â seinydd clyfar, yn cynnig annibyniaeth a sicrwydd. Drwy integreiddio â synwyryddion symud sy’n canfod symudiad, gall y goleuadau hyn droi ymlaen yn awtomatig. Mae’r nodwedd hon yn arbennig o ddefnyddiol ar ôl iddi dywyllu, gan ei fod yn helpu i leihau’r risg o faglu a chwympo wrth symud o gwmpas yr eiddo.

Tracio GPS gyda Synhwyrydd Cwympiadau

Mae’r ddyfais tracio GPS yn helpu unigolion i gynnal eu hannibyniaeth tra allan yn y gymuned, gan roi sicrwydd i aelodau’r teulu. Mae’n cynnwys synhwyrydd sy’n hysbysu’r teulu os bydd yr unigolyn yn disgyn. Gall aelodau’r teulu fewngofnodi i’r ap i weld lleoliad yr unigolyn.



Synwyryddion Gwely a Synwyryddion Cadair

Mae’r synwyryddion gwely a chadair yn cael eu gosod yn y dodrefn priodol a’u gosod i weithio yn ystod cyfnod a bennwyd ymlaen llaw. Gall y synwyryddion hyn rybuddio cyn gynted ag y byddant yn canfod y person yn codi o’r gwely neu’r gadair, neu ar ôl cyfnod penodol o absenoldeb yn amrywio o 2 i 90 munud. Mae hyn yn caniatáu amser ar gyfer gweithgareddau fel ymweld â’r ystafell ymolchi. Os na fydd y person yn dychwelyd o fewn yr amser penodedig, caiff rhybudd ei ddanfon i’r gweithredwr, a fydd wedyn yn gwirio llesiant y person ac yn galw am ymatebwyr os oes angen.



Offer ‘Canary’

Pecynnau monitro cartref sy’n helpu aelodau’r teulu a gweithwyr proffesiynol i fonitro symudiadau o amgylch yr eiddo ddydd a nos gan ddefnyddio synwyryddion. Dros amser, mae’r data hwn yn eu galluogi i bennu’r pecyn gofal priodol. Drwy ddadansoddi’r data a gasglwyd, gallant helpu i atal codymau gartref yn y dyfodol a sicrhau bod y cymorth cywir yn ei le.

Manteision Technoleg Gynorthwyol

Mae defnyddio technoleg gynorthwyol ar gyfer atal cwympiadau yn cynnig nifer o fanteision:

  • Diogelwch Gwell: Mae systemau rhybuddio a monitro ar unwaith yn sicrhau bod cymorth ar gael yn gyflym rhag ofn y bydd rhywun yn cwympo.
  • Mwy o Annibyniaeth: Gall unigolion barhau i fyw’n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain, gyda’r hyder eu bod yn cael eu cefnogi gan dechnoleg.
  • Tawelwch Meddwl: Gall unigolion a’u teuluoedd gael tawelwch meddwl o wybod bod mesurau ar waith i atal codymau ac ymateb yn gyflym os byddant yn digwydd.
  • Ansawdd Bywyd Gwell: Drwy leihau’r risg o gwympo, gall unigolion gynnal eu symudedd a chymryd rhan mewn gweithgareddau dyddiol heb ofn.

Gadewch i ni weithio gyda’n gilydd i atal cwympiadau a chadw pobl i fyw’n ddiogel ac yn hapus yn eu cartrefi eu hunain am gyfnod hirach.

Gall technoleg gynorthwyol a Thechnoleg Glyfar helpu mewn sawl ffordd. Siaradwch â’r tîm Technoleg Gynorthwyol neu ewch i’r wefan i gael rhagor o wybodaeth am y rhain a llawer o gynhyrchion eraill.

Cysylltwch â ni:

Ffurflen Atgyfeirio Cais am Dechnoleg Gynorthwyol (office.com)

Ffôn: 01633 644644

E-bost: assistivetech@monmouthshire.gov.uk

Gwefan: https://www.monmouthshire.gov.uk/care/assistivetech/

Dolenni Perthnasol: