Skip to Main Content

Technoleg Gynorthwyol

Mae’r Gwasanaethau Technoleg Gynorthwyol yn darparu datrysiadau technolegol i gefnogi a galluogi pobl i fyw’n gyfforddus ac yn ddiogel yn eu cartrefi eu hunain.

Gall yr holl drigolion sy’n byw yn Sir Fynwy gael mynediad i’r Gwasanaeth Technoleg Gynorthwyol. Am 70c y diwrnod, gallwch gael gwasanaeth achubiaeth yn eich cartref, sy’n cynnwys crogdlws (gydag opsiwn ei wisgo o amgylch eich gwddf neu’ch arddwrn). Fel arall, os ydych yn dueddol o gwympo, mae canfodydd cwympiadau a wisgir ar arddwrn ar gael am gost ychwanegol. Mae offer arbenigol ychwanegol ar gael, cysylltwch â’r Tîm Technoleg Gynorthwyol am ragor o wybodaeth.

Mae’r gwasanaeth Technoleg Gynorthwyol yn hyrwyddo lles, annibyniaeth, tawelwch meddwl, tra’n darparu tawelwch meddwl, diogelwch, sicrwydd ac fel mesur i’ch amddiffyn. Wrth bwyso botwm, byddwch yn cael eich cysylltu â Chanolfan Reoli leol lle bydd gweithredwr hyfforddedig iawn yn ateb eich galwad. Mae’r gwasanaeth ar gael 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.

 

Faint mae Gwasanaeth Technoleg Gynorthwyol yn ei gostio?

  • Ffi gosod unigol yn dechrau o £50.00
  • Costau’n dechrau o £21.75 y mis (yn cynnwys eich offer)

I weld y Dechnoleg Gynorthwyol sydd ar gael ar hyn o bryd, ewch i: @ssistivetech Sir Fynwy – dewis cynnyrch Technoleg Gynorthwyol

Hyb Technoleg Gynorthwyol!

Mae’r Hyb yn cynnwys dwy ystafell ryngweithiol – Ystafell Wely Technoleg Gynorthwyol ac Ystafell Fyw Technoleg Glyfar – sy’n dangos y gwahanol ddatrysiadau technolegol sydd ar gael i gefnogi a galluogi pobl i fyw’n gysurus a diogel ac yn eu cartrefi eu hunain.   Darllen Mwy >

Cwestiynau ac Atebion

Darllenwch ein Cwestiynau ac Atebion Cyffredin ar gyfer Technoleg Gynorthwyol a Thechnoleg Glyfar..

Darllen Mwy >

< Nôl i Tudalen Gartref Technoleg Gynorthwyol