Mae @ssistivetech (Careline gynt) yn wasanaeth lleol, sy’n cynnig cymorth personol i bobl yn Sir Fynwy. Yn fwy na gwasanaeth, mae @ssistivetech yn helpu pobl i deimlo’n ddiogel yn eu cartrefi eu hunain, gan wybod bod staff cyfeillgar a chymwynasgar ar gael unrhyw adeg o’r dydd, unrhyw ddiwrnod o’r flwyddyn.
Mrs H: ‘Mae @ssistivetech yn sicr wedi bodloni fy nisgwyliadau ac wedi rhoi ymdeimlad o sicrwydd i mi’.
Gofalwyr am Mr B: ‘Mae’r gwasanaeth yn rhoi tawelwch meddwl iddo ef a ninnau, mae’r staff yn wych ac mae’r gwasanaeth yn ei alluogi i aros gartref, sef yr hyn y mae ei eisiau’.
Mrs W: ‘Roedd y broses o osod yr offer yn ardderchog’. Mrs S: ‘Mae’n rhoi mwy o hyder i mi a llai o ofn ynghylch methu â chysylltu ag unrhyw un pe bawn i’n cwympo’.
Astudiaeth Achos: Pat, 83 oed, sy’n byw yng ngogledd Sir Fynwy
Cefndir
Mae gan pat dementia ac mae’n dal i fyw adre ar hyn o bryd. Pan na all ei theulu ymweld, maent yn ei ffonio ond roedd hyn wedi dod yn anodd gan fod defnyddio’r ffôn wedi dod yn gynyddol ddryslyd iddi, gan wneud cyfathrebu yn anodd.
Ceisio help
Cyslltodd ei theulu â’r tîm Technoleg Gynorthwyol yn Sir Fynwy ac fe wnaethant argymell a gosod dyfais Komp, oedd wrthi’n gweithio o fewn munudau. Mae’r Komp yn edrych fel teledu ond mae’n galluogi ei theulu i wneud galwadau fideo iddi. Dim ond pobl a wahoddir i’r ap all ei ddefnyddio, gan sicrhau mai dim ond teulu a chyfeillion all gysylltu â hi.
Manteision Kom
Mae gan Komp nifer o fanteision o gymharu â dyfeisiau eraill:
- Symlrwydd: Mae ei ddyluniad syml a’i sgrin fawr yn ei gwneud yn rhwydd gweld wynebau cyfeillgar
- Galwadau Fideo: Bu’r cyfleuster galwad fideo yn arbennig o fanteisiol, gan ei galluogi i aros mewn cysylltiad â’i theulu a gweld ei hwyrion yn rheolaidd.
- Sioe Luniau: Pan nad yw’n cael ei ddefnyddio ar gyfer galwad fideo, gall ei theulu roi lluniau ar y Komp, a chânt eu dangos fel sioe sleidiau.
“Mae mam wrth ei bodd yn edrych ar y lluniau yma ac mae’n rhoi cyfle gwych i eistedd gyda’n gilydd a siarad am yr atgofion a’r pobl yn y lluniau, hyd yn oed pan nad yw’n cofio’r bobl sydd ynddynt”.ictures. Even when she doesn’t remember the people in the photos, she recognises that they are happy and friendly faces and that is a comfort to her.” said Pat’s daughter.
Effaith ar y teulu
Dywedodd un o ferched Pat: “Mae Komp wedi cael effaith sylweddol ar ein teulu. Nid oedd fy mrawd, sy’n byw dramor, yn sylweddoli beth oedd cyflwr mam nes iddo ei weld drwy ap Komp. Fe wnaeth y galwad fideo (yn hytrach na galwad llais syml) iddo sylweddoli faint roedd wedi dirywio. Fe wnaeth hyn effeithio arno, ac fe wnaeth drefnu i hedfan gartref ac ymweld â hi yr wythnos ganlynol.”
Cysur Ychwanegol: Y Gath Anwes Ryngweithiol
Dywedodd teulu Pat wrthym faint roedd yn caru anifeiliaid, felly roeddem yn falch i gynnig Cath Anwes Ryngweithiol iddi. Soniodd ei merch wrthym yr effaith a gafodd:
“Fe wnaethom fabwysiadu cath anwes ryngweithiol, a wnaeth i ni wenu llawer. Mae fy mam yn hoff iawn ohoni ac mae’n rhoi cymaint o lawenydd iddi. Roedd wrth ei bodd gydag anifeiliaid anwes ac mae’n trin y gath yma fel cath go iawn. Gall y gath fewian, symud a chanu grwndi, neu chael ei gosod ar dawel. Mae’n mynd â hi i’r gwely gyda hi ac yn mynd i gysgu ar y gadair yn rhoi cwtsh iddi. Mae’r gath yn cynnau greddf mam i ofalu am rywbeth, gan roi teimlad o ddiben a thawelwch iddi. Mae’n aml yn siarad gyda hi ac yn cael cysur mawr mewn rhoi cwtsh iddi. Daeth y gath yn rhan o’n teulu, gan ddod i’n holl gyfarfodydd a bob amser yn ymddwyn yn berffaith.”
Casgliad
Mae cyflwyno’r Komp a’r Gath Anwes Ryngweithiol wedi gwella ansawdd bywyd Pat a’i theulu yn sylweddol. Mae’r technolegau wedi rhoi cyfathrebu effeithiol a chysur emosiynol. Wrth i’w chyflwr gynyddu, mae’r teulu yn siarad gyda’r tîm Technoleg Gynorthwyol am ffyrdd eraill i’w chefnogi i fyw adre cyhyd ag sy’n bosibl.
Mrs D, sy’n 83, byw yng Nghil-y-coed
Gosodwyd y larwm ‘Lifeline’ yn dilyn pryderon am ei hiechyd cyffredinol.
Cadarnhaodd adolygiad fod Mrs D yn hapus iawn gyda’r offer ac amlinellodd ei fod yn gwneud iddi deimlo’n fwy diogel yn byw gartref. Mae hi’n ffodus i gael cymorth gan ei theulu, ac mae’r gwasanaeth hwn hefyd yn rhoi sicrwydd iddynt gan wybod, ar adegau pan na allant ymweld â hi, y gallai bwyso ar ei larwm i alw am help pe bai unrhyw broblemau. Ers gosod y ‘Lifeline’, mae hi wedi cael achos i wasgu’r larwm ychydig o weithiau adeg argyfyngau, ac roedd wedi cael sicrwydd bod gweithredwr y ganolfan reoli yn gallu galw am feddyg ac ambiwlans ac yn medru trosglwyddo
ei holl wybodaeth feddygol. Galwodd y gweithredwr aelod o’r teulu hefyd a ddaeth ati ac arhosodd gyda hi tra’r oeddent yn aros i’r gwasanaethau brys gyrraedd. Mae ganddi hefyd flwch diogel i gadw allweddi ac mae’r gwasanaethau brys wedi’i ddefnyddio unwaith pan nad oedd ei theulu ar gael i fynychu, ac roedd caniatáu’r ganolfan reoli i ddarparu’r cod o dan yr amodau hyn yn ddefnyddiol iawn pan nad oedd ei theulu ar gael. Mae’r gwasanaeth yn galluogi Mrs D i fyw’n ddiogel ac yn annibynnol heb unrhyw angen am ymyrraeth gofal cymdeithasol arall. Mae cael y larwm yn rhoi hyder iddi y gallai ganu’r larwm ar unwaith pe bai angen gwneud hynny ar unrhyw adeg o’r dydd, ac unrhyw ddiwrnod o’r flwyddyn ac mae’n ddiolchgar iawn am hynny.
Mary, Sy’n 86 oed, o’r Fenni
Mae Mary wedi byw yn y Fenni ar hyd ei hoes ac mae ganddi lawer o atgofion melys o’r dref.
Mae offer @ssistivetech yn ei helpu hi a’i theulu i deimlo’n fwy diogel ac annibynnol gan wybod bod help wrth law pe bai ei angen. Mae Mary wedi cwympo o’r blaen, ac wedi iddi gwympo yn ddiweddar, bu’n rhaid iddi fynd i’r ysbyty ar ôl torri ei phelfis. Oherwydd y risg gynyddol o gwympo, mae Mary wedi cael synhwyrydd codymau ers hynny. Mae hyn nid yn unig yn caniatáu i Mary alw am help wrth wasgu botwm, ond mae’r synhwyrydd yn ffonio’r gweithredwr yn awtomatig os yw’n credu bod unigolyn wedi cwympo. Mae’r rhybudd yn hysbysu’r gweithredwr os yw’r larwm wedi ei wasgu neu os yw unigolyn wedi cwympo, ac felly’n dilyn y protocol cywir. Ar ôl byw yn ei fflat ers blynyddoedd lawer, mae Mary eisiau parhau i fyw yno. Mae darparu Larwm ‘Lifeline’ gyda’r synhwyrydd cwympiadau yn cyfrannu rhywfaint at ddarparu’r sicrwydd a’r tawelwch meddwl sydd ei angen ar Mary i barhau i fyw yn ei chartref ei hun