Mae’r gwasanaeth seibiannau byr yn berthnasol i bob plentyn a pherson ifanc ag anabledd rhwng 0 ac 18 oed sy’n byw yn Sir Fynwy. Bydd hyn yn cael ei adolygu bob blwyddyn.
Beth yw seibiant byr?
Mae seibiannau byr yn rhoi cyfle i blant a phobl ifanc anabl dreulio amser oddi wrth eu rhieni, gan ymlacio a chael hwyl gyda’u ffrindiau.
Gall seibiannau byr fod ar ffurf:
- Gofal dydd yn y cartref neu yn y gymuned
- Gofal dros nos yn y cartref neu rywle arall
- Gweithgareddau hamdden y tu allan i’r cartref
Mae seibiannau byr yn dod mewn sawl ffurf wahanol a gallant bara am awr neu ddwy hyd at ychydig ddyddiau. Bydd hyd a math y seibiant yn dibynnu ar y plentyn/person ifanc a’u teulu. Efallai y bydd angen i ni asesu’r plentyn a’r teulu i sicrhau ein bod yn darparu’r lefel gywir o gefnogaeth a seibiannau byr ar yr adeg briodol.
Pa seibiannau byr sydd ar gael?
Am y rhan fwyaf o seibiannau byr, bydd angen asesiad gan weithiwr cymdeithasol, ond mae rhai seibiannau byr eraill lle na fydd angen cael asesiad.
Asesiad gofal cymdeithasol
Mae gan riant plentyn anabl yr hawl gyfreithiol i ofyn am asesiad o anghenion eu plentyn gan y gwasanaethau gofal cymdeithasol.
Bydd y broses asesu, a gynhelir gan weithiwr cymdeithasol, yn penderfynu os yw’r plentyn yn gymwys i dderbyn gwasanaethau gofal cymdeithasol, sy’n ein galluogi i ddarganfod yn union pa fath o gefnogaeth sydd ei hangen ar y plentyn. Efallai y bydd angen i ni ymgynghori â gweithwyr proffesiynol ym meysydd iechyd ac addysg, ynghyd ag asiantaethau gwirfoddol, i gael y darlun cliriaf o anghenion y plentyn.
Unwaith y byddwn wedi cadarnhau bod y plentyn yn gymwys i dderbyn gwasanaethau gan y tîm Plant ag Anableddau, byddwn yn llunio cynllun gofal unigol sy’n gosod allan pa fath o wasnaethau cymorth sydd eu hangen ar y plentyn. Caiff hwn ei adolygu yn rheolaidd er mwyn sicrhau ei fod yn diwallu anghenion y plentyn o hyd.
Mae gan Ofal Cymdeithasol Sir Fynwy amrywiaeth o opsiynau seibiannau byr, gan ddibynnu ar ddymuniadau’r teulu ac anghenion y plentyn.
Ydy egwyliau byr yn effeithio arnoch chi? Hoffech chi roi eich barn?
Gwybodaeth gyswllt
- Gwasanaeth Nyrsio Plant Cymunedol
Ffôn: 01633 618020 - Swyddog Datblygu Chwaraeon Anabledd
Mark Foster: 07753850550 - Gwasanaeth Nam ar y Weledigaeth
Ffôn: 01633 648888.
E-bost: vis@torfaen.gov.uk
- Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Sir Fynwy
- Gwasanaeth Gofalwyr Ifanc Sir Fynwy
Ffôn: 01495 769996
E-bost: southeastwales@crossroads.org.uk - Hosbis Tŷ Hafan
Ffôn: 02920 532200
www.tyhafan.org