Skip to Main Content

Cefnogaeth yn y cartref

Mae’r rhan fwyaf ohonom eisiau parhau i fyw mor annibynnol â phosibl, yn ein cartrefi, cyhyd ag y gallwn

Mae nifer o wasanaethau i’ch helpu i wneud hyn gan gynnwys: addasu’r cartref ac offer a chymhorthion byw electronig. Gallai cyfnod byr o ailalluogi eich helpu i adennill hyder a gallu wrth gyflawni tasgau bywyd bob dydd. Gall ein Therapyddion Galwedigaethol hefyd eich helpu chi, a’ch gofalwr, gyda chyngor.

Fodd bynnag, rydym yn cydnabod bod angen cymorth yn y cartref ar rai ohonom gan rywun a all helpu gyda thasgau o ddydd i ddydd.   Gelwir hyn weithiau yn ofal cartref.

Beth mae cymorth yn y cartref yn ei gynnig i chi

Mae anghenion pawb yn wahanol: mae angen help ar rai bob dydd gydag amrywiaeth o dasgau fel ymolchi, gwisgo, mynd i’r toiled, bwyta, ac ati. Efallai mai dim ond unwaith y dydd y bydd angen help gydag eraill gydag un neu ddwy dasg neu hyd yn oed yn llai aml.

Er mwyn deall beth yw eich anghenion a beth rydych am ei gyflawni, mae angen i ni gynnal Asesiad Gofal Cymdeithasol.   Os ydych yn gymwys ar gyfer ein gwasanaethau gofal, bydd hyn yn caniatáu i ni ysgrifennu Cynllun Gofal. Mae hwn yn disgrifio sut y gellir diwallu eich anghenion a chyflawni eich amcanion yn ogystal â chost hyn. Os nad ydych yn gymwys, byddwn yn rhoi cyngor ar y math o gymorth y gallai fod ei angen arnoch a’r sefydliadau a all ei ddarparu.

Os mai cymorth yn y cartref yw’r ffordd orau o ddiwallu’ch anghenion, yna bydd eich Cynllun Gofal yn nodi beth mae hyn yn ei olygu. Yna byddwn yn cael y gwasanaethau angenrheidiol gan ein Darparwyr ar eich rhan.

Costau

Nid yw pawb yn gymwys i dderbyn ein cymorth.   I benderfynu pwy sydd yn gymwys, byddwn yn edrych ar eich sefyllfa ariannol a lefel eich angen. Os ydych yn gymwys, byddwn yn dweud wrthych faint o arian y byddwn yn gofyn i chi ei gyfrannu at eich gofal.