
Asesiad ariannol
Os aseswyd bod angen gofal cymwys arnoch gan Gyngor Sir Fynwy, yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 (Cymru), codir tâl am wasanaethau a gofynnir i chi gael asesiad ariannol prawf modd i bennu eich taliadau wythnosol tuag at eich gofal.
Os aseswyd bod angen gofal arnoch yn eich cartref eich hun, byddwn yn eich gwahodd i fod yn rhan o asesiad ariannol prawf modd ac os ydych yn:
- meddu ar gyfalaf dros £24,000 neu
- dewis peidio â chael asesiad ariannol
bydd disgwyl i chi dalu cost lawn eich gofal hyd at uchafswm o £100 yr wythnos.
- meddu ar gyfalaf dros £50,000 neu
- dewis peidio â chael asesiad ariannol
bydd disgwyl i chi dalu cost lawn eich gofal hyd at uchafswm o £100 yr wythnos.