Caiff unrhyw adroddiad o amau cam-driniaeth ei gymryd o ddifrif. Fe’i gwelir fel blaenoriaeth ar gyfer gweithredu prydlon a help.
Credwn fod gan bob plentyn, oedolyn a pherson ifanc yn Sir Fynwy hawl i fod yn ddiogel rhag anaf a’u bod yn haeddu’r cyfle i gyflawni eu potensial a byw eu bywyd mewn amgylchedd diogel.
Rydym yn cydnabod ein cyfrifoldebau mewn diogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sydd mewn risg o niwed, yn cynnwys y cyfraniad a wnawn at gydweithio gydag asiantaethau eraill i sicrhau llesiant pawb yn y sir.
Diogelu Oedolion

Diogelu Plant

Islaw mae dolenni i wybodaeth ddefnyddiol gan Fwrdd Diogelu De Ddwyrain Cymru yn ogystal â gan Gyngor Sir Fynwy
SIART LLIF CYFEIRIO DIOGELU
Beth i’w wneud os oes gennych bryderon am blentyn, person ifanc neu oedolyn mewn risg:
Dylech hysbysu eich Arweinydd Diogelu am eich pryderon a chyflwyno Dyletswydd I Adrodd (DTR) ar unwaith (Os na fedrwch drafod gyda’ch Arweinydd Diogelu, ni ddylai hyn oedi cyflwyno DTR)
GWNEWCH HYN
Gwrando
Tawelu meddwl
Cofnodi
PEIDIWCH Â GWNEUD HYN
Addo peidio dweud wrth neb
Gofyn cwestiynau arweiniol
Mynegi anghrediniaeth
Gellir cysylltu â’r tîm Plant ac Oedolion yn y lle cyntaf:
01291 635669 (Dyletswydd Plant)
01873 735492 (Diogelu Oedolion)
Fodd bynnag, dylid dilyn hyn lan bob amser drwy anfon ffurflen DTR i: ChildDuty@monmouthshire.gov.uk
MCCAdultSafeguarding@monmouthshire.gov.uk
Canllawiau DTR Continwwm Cymorth a Chanllawiau Trothwy Plant Mawrth 2024
Os credwch fod y person mewn risg ar unwaith, cysylltwch â’r Heddlu a diweddaru eich Arweinydd Diogelu
NID yw gwneud dim yn opsiwn! MAE DIOGELU YN FUSNES PAWB