Skip to Main Content

Mae ein gwasanaeth gofalwyr ifanc yn gweithio ledled y sir, mewn ysgolion a lleoliadau cymunedol; ac rydym yn darparu ein cefnogaeth trwy gydol y flwyddyn

Gofalwr ifanc yw rhywun dan 18 oed sy’n gofalu am aelod o’r teulu sydd, oherwydd salwch, anabledd, neu gyflwr iechyd meddwl, yn methu ag ymdopi heb eu cefnogaeth. Bydd y mathau o gymorth y gallwn ei gynnig i berson ifanc yn dibynnu ar a ydynt wedi cael eu cyfeirio’n ffurfiol atom neu a ydynt wedi cyfarfod â’n tîm fel rhan o’n gweithgareddau codi ymwybyddiaeth yn yr ysgol ac yn y gymuned. Mae’n bwysig nodi bod angen atgyfeiriad ac asesiad ffurfiol i’n gwasanaeth er mwyn bod yn gymwys ar gyfer yr holl opsiynau cymorth isod:

Derbyn y cylchlythyr ddwywaith y flwyddyn.

  • Gwahoddiadau i weithgareddau cymdeithasol a hamdden.
  • cefnogaeth 1:1.
  • Cefnogaeth grŵp.
  • Gwahoddiadau i gymryd rhan yn y fforwm gofalwyr ifanc.
  • Gwybodaeth a chyfeiriadau at grantiau a hawliadau eraill y gall gofalwyr ifanc eu hawlio.

Ffoniwch 01633 644389 (Llun – Gwener, 9am-5pm) i siarad ag un o’n tîm.

Young Carers (Impact and social value 2023 2024)

Nathan Meredith

Helo, Nathan ydw i, fi yw’r Arweinydd Pobl Ifanc a Chymunedau, ac InFaCT, y gwasanaeth gofalwyr ifanc, ac mae’r tîm cwnsela yn eistedd yn fy maes i o wasanaethau y mae Sir Fynwy’n eu darparu ar gyfer pobl ifanc. Rwy’n dal i deimlo mai braint yw bod yn rhan o’r timau anhygoel hyn ac yn rhan o’r holl waith yr ydym yn ei wneud gyda phobl ifanc. Mae cerddoriaeth a’r awyr agored yn gyfartal o ran yr hyn sy’n gwneud i mi ddal ati i wenu.

Julia Welch

Helo Julia ydw i ac rydw i wedi bod yn gweithio gyda gofalwyr ifanc yn Sir Fynwy am y 6 blynedd diwethaf. Y rhan orau o fy swydd yw darparu gweithgareddau a seibiant sydd dybryd ei angen ar y gofalwyr ifanc. Os gwelwch ni yn eich ysgol dewch draw i ddweud helo a gallwn ddweud ychydig mwy wrthych am y gwasanaeth a’r hyn y gallwn ei ddarparu ar eich cyfer. Ychydig amdanaf i – dwi’n hoff iawn o gerddoriaeth fyw ac rwy’n mwynhau treulio fy mhenwythnosau mas yn yr awyr agored, yn enwedig ar y traeth

H

Arif Hussain

Helo Arif Hussain ydw i ac rydw i wedi bod yn gweithio gyda gofalwyr ifanc yn Sir Fynwy ers 8 mlynedd. Rydw i wedi bod yn ofalwr ifanc ac yn ofalwr sy’n oedolyn ers blynyddoedd lawer trwy gydol fy mywyd, a dyna pam rydw i mor angerddol am fy swydd. Rwyf wrth fy modd yn gweld y gofalwyr ifanc yn hapus ac yn datblygu drwy’r cymorth yr ydym yn ei ddarparu boed yn; weithgareddau seibiant, cefnogaeth 1:1, sesiynau grŵp neu roi ychydig o gyngor neu arweiniad sydd ei angen arnynt. Rwy’n mwynhau cadw’n heini, crefft ymladd, cymdeithasu gyda ffrindiau/teulu, gwylio ffilmiau, gweithio ar fentrau newydd, dysgu pethau newydd a jest helpu pobl!