Skip to Main Content

Dim ond sgwrs yw hon, sy’n digwydd er mwyn darganfod beth yw eich anghenion, a sut y gellir eich cefnogi fel rhywun sy’n gofalu am rywun arall. Mae rhai pobl yn gweld y syniad o “asesiad” yn frawychus gan eu bod yn teimlo eu bod rywsut yn cael eu profi neu eu barnu o ran eu gallu i ofalu am ffrind neu anwyliaid; nid dyma’r achos o gwbl. Mae’r sgwrs hon yn gyfle i chi siarad am sut mae

gofalu yn effeithio ar eich bywyd, ac mae’n gyfle i chi ei drafod pethau gyda gweithiwr gofal cymdeithasol proffesiynol

Dyma rai enghreifftiau o’r hyn y gellir ei gynnwys yn y sgwrs hon:

  • Eich rôl gofalu a sut mae’n effeithio ar eich bywyd a’ch lles
  • Eich iechyd – materion corfforol, meddyliol ac emosiynol
  • Eich teimladau a’ch dewisiadau am ofalu
  • Eich gwaith, astudiaeth, hyfforddiant, hamdden
  • Eich perthnasoedd, gweithgareddau cymdeithasol a’ch nodau
  • Tai
  • Cynllunio ar gyfer Argyfyngau (fel Cynllun Argyfwng Gofalwyr) – dylai’r cyngor lleol allu dweud mwy wrthych am yr hyn y gallant ei wneud i’ch helpu i gynllunio ar gyfer argyfwng
  • Seibiant
  • Cyllid
  • Cynnal eich hunaniaeth eich hun

Hyd yn oed os yw’r person yr ydych yn gofalu amdano wedi gwrthod asesiad neu gymorth, gallwch barhau i gael asesiad o anghenion gofalwyr, a gallwch ofyn iddo ddigwydd yn rhywle sy’n gyfleus i chi, yn eich cartref, cartref y person yr ydych yn gofalu amdano, neu rywle arall os yw’n well gennych.

Y Fenni Rhif Ffôn: 01873 735885

Trefynwy/Rhaglan/Brynbuga/Tryleg Rhif Ffôn: 01600 773041

Cas-gwent/Cil-y-coed Rhif Ffôn: 01291 635666

Cyngor Sir Fynwy Rhif Ffôn: 01291 636355