Ydych chi’n gofalu am rywun?
• Efallai eu bod yn aelod o’r teulu, ffrind neu gymydog sy’n oedrannus, yn sâl neu’n anabl ac na allent ymdopi heb eich cymorth.
• Ydych chi erioed wedi meddwl y gallech chi fod yn ofalwr?
Os ydych, rydych yn ofalwr!
Ydych chi erioed wedi meddwl y gallech chi fod yn ofalwr?
“Mae Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn diffinio ‘gofalwr’ fel
“Gofalwr” yw person sy’n darparu neu’n bwriadu darparu gofal i oedolyn neu blentyn anabl; nid yw person yn ofalwr at ddibenion y Ddeddf hon os yw’r person yn darparu neu’n bwriadu darparu gofal
(a) O dan neu yn rhinwedd contract neu
(b) Fel gwaith gwirfoddol
Mae’n naturiol na fydd llawer ohonom yn ein gweld ein hunain fel gofalwyr, oherwydd rydym yn ein gweld ein hunain fel mam, tad, gwraig, gŵr, ffrind, cymydog, perthynas, partner i’r person rydym yn ei helpu yn eu bywyd o ddydd i ddydd. Fodd bynnag, wrth ofalu am rywun mae’n hawdd anghofio amdanoch chi’ch hun, a’ch iechyd a’ch lles eich hun, a dyna pam mae’n bwysig eich bod yn cydnabod pryd y mae angen cymorth arnoch ac yn gallu gofyn i eraill am y cymorth hwnnw.
Gall gofalu am rywun gael effaith enfawr ar eich bywyd, er gwaethaf pa mor barod ydych chi i wneud hynny. Gall gofalu ddigwydd ar unrhyw oedran, gall ddigwydd yn araf, gallai fod yn rhywbeth rydych wedi’i wneud erioed, gallai fod yn rhywbeth a ddisgwylir gennych chi neu gallai fod yn rhywbeth nad ydych yn teimlo eich bod yn gallu nac yn barod i’w wneud mwyach.
I ddechrau, efallai na fyddwch yn teimlo bod angen cymorth arnoch ond dros amser gall hyn newid ac mae’n bwysig eich bod yn gwybod ble i droi.
Ni yw’r Prosiect Gofalwyr Sir Fynwy ac rydym yma i gefnogi gofalwyr. Rydym hefyd yn cefnogi sefydliadau a gweithwyr proffesiynol eraill fel eu bod yn gallu nodi’n well pryd y mae rhywun mewn rôl gofalu, fel y gallant gynnig y cymorth a’r wybodaeth gywir hefyd.
Rydym wedi llunio llawlyfr gofalwyr i ddweud wrthych am amrywiaeth o wasanaethau defnyddiol a allai fod o gymorth i chi yn eich rôl gofalu. Mae copïau caled o hyn ar gael mewn meddygfeydd, drwy gysylltu â’r desgiau dyletswydd gofal cymdeithasol, a gellir eu lawrlwytho o’n gwefan
Pwy sydd ddim yn ofalwr?
Rhywun sy’n gofalu am blentyn/plant nad oes ganddo anabledd, na salwch sy’n cyfyngu ar fywyd.
Rhywun sy’n gweithio neu wirfoddolwyr mewn gofal, fel gweithiwr gofal, staff meddygol a gweithwyr cymunedol