Trosolwg
Os ydych chi’n riant neu’n warcheidwad i blentyn mewn addysg rhwng dosbarth derbyn a blwyddyn 11, efallai eich bod yn gymwys i dderbyn grant i’ch helpu chi i dalu am eitemau hanfodol.
Enw swyddogol y grant yw grant Hanfodion Ysgol.
Efallai eich bod yn adnabod y grant fel grant Datblygu Disgyblion, grant Mynediad Datblygu Disgyblion (GDD) neu’r grant Gwisg Ysgol.
Faint sydd ar gael
Ar gyfer blwyddyn ysgol 2024 i 2025, mae’r grant yn:
- £125 ar gyfer plant sy’n gymwys
- £200 ar gyfer plant blwyddyn 7
Sut y gallwch chi ei ddefnyddio
Gallwch ddefnyddio’r grant i dalu am:
- gwisg ysgol, cotiau ac esgidiau
- dillad ac offer chwaraeon
- offer ar gyfer gweithgareddau ysgol, yn cynnwys gwersi cerdd, dysgu awyr agored a chlybiau ar ôl ysgol
- offer i’r ystafell ddosbarth yn cynnwys beiros, pensiliau a bag ysgol
- Offer a deunyddiau ar gyfer pynciau a chyrsiau newydd
Meini prawf
Gallech fod yn gymwys os ydych yn riant neu warcheidwad i blentyn mewn addysg o dosbarth derbyn i blwyddyn 11, ac yn derbyn unrhyw un o’r budd-daliadau canlynol:
- Cymhorthdal incwm (Income support)
- Lwfans ceisio gwaith (Jobseeker’s Allowance)
- Lwfans cymorth a chyflogaeth (Employment and Support Allowance)
- Credyd Treth Plentyn (Child Tax Credit)
- Credyd Pensiwn (Pension Credit)
- Credyd Cynhwysol (Universal Credit)
- Cymorth o dan Deddf Lloches a Mewnfudo 1999
Os ydych yn derbyn Credyd Cynhwysol, rhaid i enillion eich aelwyd fod yn llai na £7,400 y flwyddyn ar ôl treth. Nid yw hyn yn cynnwys unrhyw Incwm o fudd-daliadau.
Efallai y byddwch yn gymwys i hawlio os nad oes gennych hawl i arian cyhoeddus (NRPF).
Mae pob plentyn mewn gofal yn gymwys.
Efallai y byddwch hefyd yn gymwys ar gyfer:
Gwneud cais
Gallwch wneud cais o’r 1 Gorffennaf 2024 i 31 Mai 2025.
I wneud cais, byddwch angen:
- manylion cyswllt
- Ene ysgol eich plentyn
- rhif yswiriant gwladol (os ar gael)
- manylion banc (os yn berthnasol)
Dim ond unwaith y plentyn y flwyddyn y gallwch hawlio.
Gwneud cais am Grant Hanfodion Ysgol
Manylion cyswllt
Am gymorth pellach gyda’r cais neu unrhyw gwestiwn, cysylltwch â ni:
- Ffôn 01495 742291 neu 742377
- E-bost benefits@monmouthshire.gov.uk
Nid yw disgyblion sy’n derbyn Prydau Ysgol am Ddim oherwydd trefniadau amddiffyn wrth bontio, neu’r rheini sy’n rhan o gynllun Prydau Ysgol am Ddim i Bawb, yn gymwys i dderbyn y cyllid hwn. Trowch at yr adran Prydau Ysgol Am Ddim ar ein gwefan i gael mwy o wybodaeth.