Beth allwch chi ei wneud ar Fy Sir Fynwy?
- Mae’n ffordd hawdd o gael gwybodaeth (e.e. amserlenni bysiau).
- Rhowch wybod am unrhyw ddodrefn stryd sydd wedi’u difrodi (e.e. meinciau, biniau, ffensys, rhwystrau damweiniau ac ati).
- Mae’n ffordd gyflym o gyrraedd gwasanaethau ar-lein eraill (e.e. Parent Pay, talu’ch Treth Cyngor, talu eich gwastraff gardd).
- Archebwch a gweld eich Archebion Canolfan Ailgylchu Cartrefi (Sbwriel ac Ailgylchu).
- Mae’n darparu sianel gyfathrebu ddwy ffordd gyda Sir Fynwy, drwy gadw’n gyfoes ac mewn cysylltiad.
- Gallwch weld eich cyfrif a pha ryngweithio rydych wedi’i gael gyda’r Cyngor.
- Gallwch dderbyn negeseuon e-bost wedi’u targedu ar yr hyn y mae gennych ddiddordeb ynddo (e.e. Digwyddiadau, newyddion y Cyngor).
Gallwch gyfathrebu â’r cyngor gan ddefnyddio Fy Sir Fynwy drwy’r ddolen we hon neu’r app sy’n galluogi mynediad hunanwasanaeth 24/7.
Mae’r app yn ffordd hawdd o gysylltu â’r cyngor yn gyflym ac yn galluogi pobl i riportio digwyddiad gan ddefnyddio llun neu fideo o’u ffôn. Er enghraifft, gall preswylwyr roi gwybod am dwll yn y ffordd, tipio anghyfreithlon neu olau stryd sydd wedi torri, drwy gasglu’r manylion a’u cyflwyno’n awtomatig.
Mae app Fy Sir Fynwy hefyd yn darparu’r newyddion diweddaraf gan y cyngor ac mae’n cynnwys gwybodaeth am wasanaethau lleol fel diwrnodau casglu gwastraff, swyddi gwag, amserlenni bysiau neu ddata ysgolion. Mae pob preswylydd neu unrhyw un sy’n ymweld â Sir Fynwy gyda ffonau clyfar yn cael eu hannog i lawrlwytho’r app.
I wneud hynny, ewch i’ch siop app a lawrlwythwch app Fy Sir Fynwy.
Sut y gallwch chi helpu!
Sut y gallwch chi helpu
Rydym yn awyddus i glywed beth yw eich barn am app Fy Sir Fynwy, os hoffech anfon eich adborth atom yna gallwch wneud hynny drwy gwblhau’r ffurflen hon.
Os ydych yn dymuno dadgofrestru eich manylion o Fy Sir Fynwy neu os ydych yn dymuno gweld ein Polisi Preifatrwydd, dilynwch y ddolen hon.