Yn gyntaf oll, diolch am ystyried Sir Fynwy fel lleoliad ar gyfer eich cynhyrchiad ffilm neu deledu. Mae’n sir brydferth sy’n cynnig amrywiaeth eang o leoliadau gwych. Gyda thirweddau gwledig ysgubol ac afonydd prydferth, trefi hanesyddol sy’n orlawn o bensaernïaeth cyfnod a chestyll canoloesol dramatig, mae’n sir fach gyda llawer iawn i’w gynnig. Hefyd, rydym wedi ein lleoli’n gyfleus nid nepell o Fryste a Chaerdydd, gyda’r M4, yr M5 a’r M50 yn gyfagos.
Cysylltwch â ni
Does dim ots os taw ond ymweliad archwilio sydd angen arnoch, neu chwiliad am leoliad neu os ydych yn gwybod y lleoliad, y dyddiad a’r amser yr hoffech ffilmio, cysylltwch â ni a byddwn yn gwneud ein gorau i helpu. Danfonwch e-bost at: filming@monmouthshire.gov.uk
Mae ein tîm yn cynnwys y rhai sydd wedi gweithio yn y diwydiant darlledu, felly rydym mewn sefyllfa dda i ddeall a diwallu eich anghenion. Gallwn helpu cwmnïau cynhyrchu i ddod o hyd i leoliadau gwych, beth bynnag fo’r pwnc dan sylw. O straeon newyddion a rhaglenni eiddo, i ddramâu teledu a ffilmiau nodwedd, rydym yma i’ch helpu i ddod o hyd i’r hyn sydd ei angen arnoch.
Pam Sir Fynwy?
Pam lai! Nid chi fydd y cyntaf i wneud y gorau o’r posibiliadau y mae Sir Fynwy’n cynnig. Mae cynyrchiadau’r gorffennol wedi cynnwys Sex Education (Netflix), The Pact (drama’r BBC), Countryfile, Weatherman Walking a Hairy Bikers i enwi ond rhai ohonynt.
Beth bynnag yw anghenion eich set/lleoliad neu stori, mae gennym rywbeth i bawb. Ystyriwch gamlas Sir Fynwy ac Aberhonddu er enghraifft, sy’n cynnig harddwch tawel a threftadaeth ddiwydiannol, tra bod Tyndyrn yn gartref i un o abatai mwyaf eiconig y DU. Ym mhobman yr ydych yn edrych, mae yna harddwch. Dilynwch yr Afon Gwy wrth iddi droelli’i ffordd drwy’r sir, gan redeg drwy dir fferm, coetir a chymoedd hardd a byddwch yn gweld yn union am beth rydym yn sôn.
Mae trefi Sir Fynwy yn lleoedd bywiog a chroesawgar. Mae strydoedd mawr prysur wedi tyfu i fyny o amgylch cestyll hanesyddol mewn llawer o leoedd, gan roi cymeriad unigryw i bob un. Am fwy o ysbrydoliaeth a chipolwg, ewch i VisitMonmouthshire.