Skip to Main Content

Rydym yn helpu perchnogion cartrefi gwag i ddod â’u heiddo’n ôl i gael eu defnyddio. Lle mae perchnogion yn gwrthod mynd i’r afael â’u heiddo gwag bydd y cyngor, fel dewis olaf, yn defnyddio eu pwerau gorfodi i drafod unrhyw broblemau amgylcheddol y mae’r eiddo yn ei achosi. Mae hyn yn beth prin iawn gan y bydd rhan fwyaf o berchnogion yn dewis mynd â’r maen i’r wal a chael trefn ar eu heiddo gwag heb unrhyw ymyriad gan y Cyngor. Felly mae’n werth chweil cysylltu os ydych yn bryderus am eiddo gwag yn agos atoch chi.

Gall cartrefi gwag:

  • achosi niwsans i gymdogion
  • bod yn beryglus
  • denu fandaliaid ac ymddygiad gwrthgymdeithasol
  • gostwng gwerth cartrefi cyfagos

Os ydych eisoes wedi cofrestru drwy ddefnyddio ap Fy Sir Fynwy, sydd ar gael ar hyn o bryd ar ddyfeisiau AppleAndroid a Windows gallwch ddefnyddio’r un cyfeiriad e-bost a chyfrinair i fewngofnodi.