


Bu deddfwriaeth newydd ar Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) mewn grym ers mis Medi 2021. Yr egwyddorion wrth wraidd y system ADY yw creu system addysg hollol gynhwysol lle caiff pob dysgwr gyfle i lwyddo a mynediad i addysg sy’n diwallu eu hanghenion a’u galluogi i gymryd rhan mewn dysgu, cael budd ohono a’i fwynhau.
Mae gennym Swyddog Arweiniol ADY Blynyddoedd Cynnar ac Athrawon Ymgynghorol ADY i gefnogi plant mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar.
Edrychwch ar ein Llawlyfr ADY Blynyddoedd Cynnar a thaflenni defnyddiol.