Telerau ac Amodau Dysgu Cymunedol Sir Fynwy:
Mae’n nod gan Dysgu Cymunedol Sir Fynwy ddarparu pob cwrs a hysbysebir fodd bynnag ni allwn roi unrhyw warant. Mae darpariaeth cyrsiau yn dibynnu ar sicrhau isafrif mewn dosbarth. Os nad yw cwrs yn cyrraedd yr isafrif caiff ei ganslo neu ohirio. Mae gennym hawl i newid, canslo neu addasu cyrsiau fodd bynnag byddwn yn rhoi cymaint o rybudd ag sydd modd os yw hyn yn digwydd.
Caiff rhai cyrsiau eu cynnal ar lein a bydd angen i ddysgwyr gael cysylltiad rhyngrwyd a dyfais ddigidol gyda microffon a chamera – mae gennym nifer gyfyngedig o unedau a dyfeisiau Mifi ar gael i’w benthyg yn ystod cyfnod cwrs.
Taliad:
Rhaid gwneud taliad llawn cyn dechrau’r cwrs yn unrhyw un o’n pump hyb cymunedol drwy gerdyn credyd neu ddebyd neu dros y ffôn drwy ein gwasanaeth talu awtomatig.
Canslo ac Ad-dalu:
Mae Dysgu Cymunedol Sir Fynwy yn cadw’r hawl i ganslo a newid cyrsiau. Rhoddir ad-daliad llawn neu nodyn credyd os yw hyn yn digwydd.
Unwaith y byddwch wedi cofrestru ar gwrs, mae dysgwyr yn atebol am bob cost. Ni roddir ad-daliadau os nad yw Dysgu Cymunedol Sir Fynwy yn canslo’r cwrs.
Sut y byddwn yn defnyddio’ch gwybodaeth
Mae angen prosesu eich data personol gan Gyngor Sir Fynwy er mwyn eich ymrestru ar gyfer y maes astudiaeth y gwnaethoch ei ddewis. Heb y wybodaeth hon, ni all Addysg Gymunedol o fewn y Cyngor gyflawni’r gwasanaeth yma.
Bydd eich manylion yn cael eu rhannu yn gyfreithlon gyda Coleg Gwent (cyrsiau ffransais yn unig) mewn modd diogel. O bryd i’w gilydd efallai y bydd angen i ni rannu eich manylion personol gyda Chyrff Dyfarnu. Ni chaiff eich manylion personol eu rhannu ymhellach, oni bai mewn perthynas â diogelu neu rwymedigaethau cyfreithiol eraill.
Bydd eich cofnodion yn cael eu storio a’u cadw’n ddiogel yn unol â’n polisi cadw, oni bai bod angen i ni eu cadw o dan sail gyfreithlon arall.
Mae gennych nifer o hawliau mewn perthynas â’r wybodaeth, gan gynnwys yr hawl i gael mynediad at wybodaeth sydd gennym amdanoch chi a’r hawl i gwyno os ydych yn anfodlon gyda’r modd y mae eich gwybodaeth yn cael ei phrosesu. Am ragor o wybodaeth am sut rydym yn prosesu’ch gwybodaeth a’ch hawliau, cliciwch ar y ddolen ganlynol; http://www.monmouthshire.gov.uk/cy/55755-2/preifatrwydd-eichcyngor
Os bydd angen i chi wneud cwyn am y ffordd y mae eich data wedi’i brosesu, cysylltwch â dataprotection@monmouthsire.go.uk neu os nad ydych chi’n llwyr fodlon, gallwch gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth ar-lein yn https://ico.org.uk/about-the-ico/other-languages/welsh/welshcomplaints/neu drwy eu llinell gymorth: 0303 123 1113