Tiwtor: Mary Reed
DISGRIFIAD CWRS:
Mae hwn yn weithdy misol yn ymwneud a defnyddio a gweithredu ffonau clyfar, Ipad neu gyfrifiaduron llechen.
Bydd yr wythnos gyntaf yn gyflwyniad i osodiadau a phori ar y we. Defnyddio’r camera (os oes un ar y ddyfais), oriel lluniau ac e-bost. Cysylltu a datgysylltu Wifi.
Bydd yr ail wythnos yn trafod gosodiadau mwy defnyddiol, ymchwilio gwahanol apiau fel mapiau a nodiadau. Golwg fanylach ar e-bost, porwr ac ap lluniau.
Bydd y drydedd wythnos yn trin lawrlwytho gwahanol apiau newydd a gosodiad uwch i bersonoleiddioi eich dyfais. Bydd yn cynnwys trosolwg o storio Cwmwl a chopïau wrth gefn.
Caiff y cwrs ei arwain gan y fyfyrwyr a gellir ychwanegu pynciau fel mae amser yn caniatau.
Bydd llyfrynnau a thaflenni cwrs ar gael.
HANFODOL:
Medru mewngofnodi ar eich dyfais eich hun
CANLYNIADAU:
Gwybodaeth a defnydd ymarferol o’r ddyfais
UNRHYW DDEUNYDDIAU/OFFER SYDD EU HANGEN GAN FYFYRWYR:
Ipad/Llechen/Ffôn Clyfar wedi siarsio ac yn barod i fynd! Bydd angen gwifrau siarsio a chyfrineiriau ar gyfer y 3ydd sesiwn.
TIWTOR: Mary Reed
Rwyf wedi bod yn addysgu TGCh am rai blynyddoedd. Cefais fy nghymhwyster cyfrifiadurol ym Mhrifysgol Caerdydd a thystysgrif addysgu yng Nghaerllion. Cedwais yn gyfredol drwy gael fy nghymhwyster addysgu llythrennedd digidol. Mynychais lawer o gyrsiau dan arweiniad Cannon UK a chwrs y Brifysgol Agored ar bwnc deall achau.
Rwy’n addysgu cyfrifiadureg i ddechreuwyr hyd at haen 3 lefel “A”, gan gyflwyno dysgwyr i’r byd digidol yn defnyddio eu dyfeisiau eu hunain yn cynnwys camerâu digidol. Roedd fy menter newydd y llynedd i fyd hanes teulu a hel achau. Eleni rwy’n datblygu cyrsiau’n seiliedig ar storio cwmwl a chymwysiadau.
Rwyf wrth fy modd yn rhannu gwybodaeth a llwyddiant myfyrwyr yn yr hyn y maent yn ei gyflawni.