Tiwtor: Elizabeth Clatworthy
DISGRIFIAD O’R CWRS:
Y tymor hwn mae’r myfyrwyr wedi gofyn am gynnwys sgiliau weirio sylfaenol, tyllau botwm a chorsaj, dyluniadau wedi’u clymu gan law, dyluniad modern gan drin dail. Byddwn yn cynnwys dehongliad blodeuwriaeth o bwnc dewisol a byddwn yn gorffen y cwrs cyn Nadolig, felly byddwn yn cynnwys dyluniadau torchau Nadolig a byrddau Nadolig.
Mae nifer o lefelau sgil wedi’u cynnwys, o ddechreuwyr pur i fyfyrwyr sydd wedi mynychu nifer o gyrsiau ac sydd wedi datblygu sgiliau hyfedr.
Grŵp cynhwysol o fyfyrwyr brwdfrydig a chyfeillgar yw blodeuwriaeth sydd â llawer o amrywiaeth ac sy’n hwylus.
RHAG-AMODAU:
Chwant i drefnu blodau a brwdfrydedd i ddysgu.
CANLYNIADAU:
I ddatblygu eich sgiliau blodeuwriaeth, eich hyder ac i ehangu eich grŵp ffrindiau.
UNRHYW DDEUNYDDIAU/OFFER SYDD ANGEN GAN FYFYRWYR:
Bydd angen i fyfyrwyr dod â siswrn a phob deunydd sydd ei angen i bob gwers, bydd arddangosfa o’r dyluniad blodau a rhestr o eitemau sydd angen yn cael eu cyflwyno yn y dosbarth ar gyfer yr wythnos ganlynol.
Myfyrwyr i brynu eu deunyddiau eu hun. Bydd y tiwtor yn darparu gwifrau a seloffên am gost o £2 (i’w dalu arian parod i’r tiwtor ar y dydd).