DISGRIFIAD CWRS:
Nod y cwrs Ysgrifennu Creadigol yma yw rhoi cyfle i ysgrifennu mewn dosbarthiadau cynhwysol, difyr a diddorol. Bydd y cwrs dechreuol 14 wythnos yn annog a hwyluso ysgrifenwyr, o ba bynnag allu, i ymchwilio eu potensial eu hunain. Mewn ymateb i bromptiau gweithdy byddant yn defnyddio eu gwybodaeth, profiadau bywyd, atgofion a dychymyg i ysgrifennu. Bydd y cwrs yn defnyddio ysgogiadau megis natur, celf a ffotograffiaeth, bywyd ac arsylwi personol, a barddoniaeth. Bydd y grwpiau yn fach ac yn meithrin awyrgylch cyfeillgar a chefnogol. Bydd gweithdy dwy awr bob wythnos yn annog momentwm ysgrifennu a’r gallu i glywed a rhoi adborth i gymheiriaid. Os ydych bob amser wedi bod amser eisiau ysgrifennu, dewch draw a rhoi cynnig arni.
HANFODOL:
Dim
DEILLIANNAU:
Cael yr wybodaeth a’r hyder i barhau i ysgrifennu
UNRHYW DDEUNYDDIAU/OFFER SYDD EU HANGEN GAN FYFYRWYR:
Beiro a phapur!
TIWTOR: Sharon Brace