Tiwtor : Jane Blair
DISGRIFIAD O’R CWRS:
Rwyf ar hyn o bryd yn cynnal dosbarthiadau crochenwaith bob nos Fawrth neu fore Gwener. Byddwch yn dysgu gwahanol ddulliau o adeiladu â llaw gan gynnwys slabiau, coiliau a ffurf rydd. Addas ar gyfer dechreuwyr, yn ogystal â myfyrwyr sy’n dychwelyd.
Mae pwyslais y cwrs ar ddatblygu technegau adeiladu â llaw, gan weithio gyda chleiau phriddwaith. Byddwn hefyd yn cynnwys sgiliau crochenwaith eraill fel paratoi clai, gorffen, defnyddio slipiau a gwydro. Rwyf hefyd yn eich annog i gryfhau’ch syniadau trwy edrych ar grochenwaith, darlunio, ac yn anelu at ymweld ag Amgueddfa Caerdydd bob blwyddyn.
UNRHYW DDEFNYDDIAU/OFFER SYDD EU HANGEN GAN FYFYRWYR:
Bydd angen i fyfyrwyr ddod â ffedog.
Tiwtor: Jane Blair
Hyfforddais mewn cerameg yng Ngholeg Celf Caerdydd ac wedyn gwneud tystysgrif addysgu. Rwyf wedi cynhyrchu cerameg ar wahanol lefelau byth ers hynny, yn dibynnu ar ymrwymiadau addysgu a theulu.
Rwyf bob amser wedi mwynhau her dosbarthiadau oedolion a phlant gan nad oes unrhyw ddau ddosbarth byth yr un fath. Rwy’n hoffi i fy ngrwpiau fod yn hunangyfeiriedig felly ar ôl dysgu eu dulliau dechreuol, mae myfyrwyr yn fy nghadw ar flaenau fy nhraed gyda’u syniadau. Er hynny, os credaf fod pethau braidd yn ddiflas, gallaf gynnwys ychydig o heriau i fywiogi pethau.