Tiwtor: Kate Evans
DISGRIFIAD O’R CWRS:
Bydd dysgwyr yn creu brasluniau ffiguraidd o fodel am ddwy awr. Fel arfer ymarfer twymo o ychydig o orweddiadau 2-5 munud yr un ac i ddilyn ceir gorweddiad estynedig am weddill y sesiwn.
Mae model wahanol/gwahanol a gorweddiadau gwahanol bob wythnos. Mae’r cwrs yn addas i bawb o ddechreuwyr i arbenigwyr. Bydd dysgwyr yn adeiladu ar sgiliau darlunio technegol, mesur cyfannedd, onglau a ffurf gyffredinol y ffigwr.
UNRHYW DDEFNYDDIAU/OFFER SYDD EU HANGEN GAN FYFYRWYR
Papur a Phensiliau. Mae cyfryngau fel pastelau, dyfrlliw ayb yn ddewisol ond yn dda os yw’r dysgwr eisiau mabwysiadu lliw fel rhan o’u canlyniadau.
(mae byrddau a standiau yn cael eu darparu)
Tiwtor: Kate Evans BA Celfyddyd Gain/ MFA Ymarfer Celf
Bu darlunio yn rhan hanfodol o fy mywyd cyhyd ag y gallaf gofio. Fel plentyn ac ymlaen i fywyd fel oedolyn mae’r ffordd y mae person yn darlunio pwnc bob amser yn wahanol i bawb arall sy’n darlunio o fewn yr un ystafell yn edrych ar yr un pwnc. Dyma beth sydd bob amser wedi fy nghyfareddu. Rwy’n gweld darlunio fel ffordd o weld ac ymddengys fod pawb ohonom yn gweld y byd mewn ffordd unigryw.
Rwy’n trosglwyddo fy ngwybodaeth dechnegol a 11 mlynedd o brofiad fel model bywyd i ymarfer addysgu wrth arwain sesiynau darlunio ffigur. Mae gennyf gydymdeimlad ag egni ystum y model ac egni’r stiwdio tra bod y rhai sy’n bresennol yn diffinio’r ffurf yn y cyfrwng a ddewiswyd ganddynt.
Fy mwriad yw galluogi pob unigolyn i wneud darganfyddiadau newydd. Mae’n dda aros o fewn cyfrwng sy’n helpu darlunio i ragori, ond mae’r un mor bwysig i ddechrau llwybrau newydd o ymchwilio. Sut mae’r deunydd newydd yma’n ymateb? Sut fedraf i ddefnyddio hyn?
Mae gan fy ngwaith artistig gysylltiad dwys gyda’r weithred o ddarlunio a’r ffigurol. Caiff pob sesiwn yr wyf yn diwtor ynddi ei theilwra i fod yn addas ar gyfer pob lefel o allu a rhoddir llawer o bwyslais ar hyfforddiant a datblygiad unigol.