Er mwyn gwella presenoldeb ymhellach ar draws y rhanbarth, mae Sir Fynwy a’r pedwar Awdurdod Lleol arall sy’n rhan o SEWC wedi gweithio’n agos gyda’r Gwasanaeth Cyflawniad Addysgol a’r Athro Ken Reid i ddatblygu dogfen strategol yn amlinellu’r egwyddorion allweddol i wella presenoldeb. Mae’r ddogfen yn cydymffurfio â’r egwyddorion a amlinellir o fewn Fframwaith Presenoldeb Cymru Gyfan (2011) ac yn ddogfen lefel uchel sy’n darparu arweiniad i ysgolion.
Gellir dod o hyd i Ddogfen Strategol SEWC trwy glicio ar y ddolen atodedig.
Polisi Presenoldeb yr Awdurdod Lleol
Mae Sir Fynwy wedi datblygu Polisi Presenoldeb Lleol fel dogfen gyfarwyddyd ac mae ysgolion yn gallu dewis mabwysiadu’r polisi neu ddatblygu eu polisi eu hunain. Mae’r ddogfen yn amlinellu Polisi ac Arferion Lleol a hefyd yn cyfeirio at Gyfarwyddyd Llywodraeth Cymru ar Hysbysiadau Cosb Benodedig.
Gellir dod o hyd i Bolisi Presenoldeb yr Awdurdod Lleol trwy glicio ar y ddolen hon