Diweddariad: 18 Tachwedd 2024 – Stryd Frogmore
Yn dilyn gwaith adfer diogelwch yn cwblhau at Stryd Frogmore yn dilyn y tan ar ddydd Sul, 10 Tachwedd 2024, mae Cyngor Sir Fynwy yn gallu cadarnhau fod Stryd Frogmore ar agor i gerddwyr.
Mae ffensys wedi cael i’w osod ar hyd yr ardal a gafwyd i’w effeithio gan y tan.
Mae busnesau bellach ar agor.
Rydym yn annog pob preswylydd ac ymwelydd i gadw at y cyfyngiadau hyn at ddibenion diogelwch.
Nodwch, fod mynediad cerbydau cyfyngedig dal mewn grym yn lleol, fel nodir isod.
Safle Tacsis:
Oherwydd y nodiadau ar hyd Stryd Frogmore a’r ardal gyfagos. Mae safle tacsis dros dro wedi i’w osod ar waelod Stryd Frogmore, ar ochr dde o’r cofadail.
Diweddariad: 15fed Tachwedd 2024 Stryd Frogmore a’r ardal gyfagos:
Yn dilyn y Tân ar ddydd Sul, 10fed Tachwedd, yn Stryd Frogmore, Y Fenni, rydym yn gweithredu mesurau diogelwch pellach yn yr ardal.
Mae manylion y gwaith a wneir isod.
- Dydd Gwener 15fed Tachwedd: Bydd ffensys yn cael eu codi ar hyd Stryd Frogmore.
- Dydd Sadwrn 16eg Tachwedd: Gosod rhwystr concrit ar hyd Stryd Frogmore.
- Dydd Sul 17eg Tachwedd: Cwblhau ffensys a rhwystrau, ail-agor mynediad i gerddwyr trwy Stryd y Popty a Stryd Frogmore.
*Gall y wybodaeth uchod newid.
Bydd cau ffyrdd a mynediad cyfyngedig i gerddwyr yn parhau yn eu lle hyd nes y clywir yn wahanol, a bydd yr holl waith angenrheidiol i wneud yn ddiogel yn cael ei gwblhau.
Dylai pob cerbyd, cerddwr a busnes ddilyn y trefniadau mynediad presennol a nodir isod. Bydd gwybodaeth yn cael ei diweddaru unwaith y bydd y gwaith canlynol wedi’i gwblhau.
Rydym yn annog pob preswylydd ac ymwelydd i gadw at y cyfyngiadau hyn at ddibenion diogelwch.
Diolch i bawb am eu cefnogaeth a’u dealltwriaeth barhaus.
Diweddariad: 13 Tachwedd 2024 – Ffyrdd ar gau
Yn dilyn y tân yn Stryd Frogmore, Y Fenni ar ddydd Sul, 10fed Tachwedd, mae Cyngor Sir Fynwy wedi cau ffyrdd yn yr ardal i gefnogi’r ymateb aml-asiantaeth sydd yn parhau.
Yn sgil ymchwiliad parhaus gan Heddlu Gwent a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, bydd yr heolydd hyn ar gau hyd nes y clywir yn wahanol oherwydd pryderon diogelwch i’r cyhoedd.
Ar hyn o bryd, mae’r heolydd canlynol ar gau:
Stryd Frogmore
• Dim mynediad i gerbydau i Stryd Frogmore.
• Mynediad i Gerddwyr hyd at gyffordd Stryd Baker a Stryd Frogmore yn unig.
• Mae mynediad i gerddwyr i ben deheuol Stryd Frogmore ar hyd yr A40 yn unig.
Stryd Baker
• Dim mynediad i gerbydau heibio cyffordd Stryd y Tywysog.
• Mynediad awdurdodedig i gerddwyr yn unig.
Y Stryd Fawr
• Mynediad i gerbydau cludo rhwng 4pm – 10am, wedi’i gyfyngu i uchafswm pwysau o 7.5 tunnell.
• Dim mynediad i gerbydau, allanfa trwy Stryd y Llew.
• Mynediad llawn i gerddwyr.
Bydd newidiadau i’r heolydd sydd ar gau yn cael eu diweddaru wrth i ymchwiliadau ddod i ben, a byddwn yn diweddaru’r cyhoedd trwy ein gwefan a’n sianeli cyfryngau cymdeithasol.