Dan Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002, mae’n ofynnol i bob ymgeisydd 18 oed neu drosodd a gaiff eu derbyn fel dinasyddion Prydeinig i gymryd rhan mewn seremoni dinasyddiaeth.
Nod y seremoni yw galluogi ymgeiswyr i sicrhau dealltwriaeth lawn o’r hawliau a’r cyfrifoldebau a ddaw gyda sicrhau dinasyddiaeth Brydeinig a hefyd i sicrhau y cânt eu croesawu’n iawn i’r gymuned Brydeinig. Nid oes unrhyw ofyniad cyfreithiol i ymgeiswyr dan 18 oed fynychu seremoni neu gymryd y Llw neu Gadarnhad Teyrngarwch. Fodd bynnag, gall plant dan 18 oed fynychu’r seremoni os dymunant wneud hynny.
Cynhelir seremonïau dinasyddiaeth yn Swyddfa Gofrestru Sir Fynwy ym Mrynbuga. Fel arfer cynhelir seremonïau ar ddydd Iau cyntaf y mis. Lle’n bosibl, gwahoddir Arglwydd Raglaw Gwent neu un o’i ddirprwyon i fynychu i groesawu’r dinasyddion fel cynrychiolwyr Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II. Mae Cadeirydd Cyngor Sir Fynwy yn mynychu fel arfer i groesawu’r dinasyddion i Sir Fynwy.
Ffôn: 01873 735435