Os nad oes gennych lety parhaol/diogel neu os oes gennych lety ond na allwch fyw ynddo, fe’ch ystyrir yn ddigartref.
Nid oes rhaid i chi fod yn byw ar y strydoedd i fod yn ddigartref.
Neu os ydych yn debygol o ddod yn ddigartref o fewn y ddau fis nesaf, rydym yn ystyried eich bod o dan fygythiad o ddigartrefedd a gallwn eich helpu o hyd.
Ffoniwch neu e-bostiwch ni:
Os ydych yn y sefyllfa hon, y ffordd orau o gael cymorth yw ein ffonio neu drwy ddanfon e-bost atom.
Ffoniwch ni ar: 01633 644 644
- Dydd Llun i ddydd Iau 8.45am i 5pm
- Dydd Gwener, 8.45am i 4.30pm
Neu e-bostiwch ni: housingoptions@monmouthshire.gov.uk
Os oes angen help arnoch pan fydd ein hadran ar gau, ffoniwch ein gwasanaeth Argyfwng y Tu Allan i Oriau ar: 01633 644 644.
Ewch i Hyb am gefnogaeth
Mae modd i chi fynd i Hyb lleol (cliciwch yma er mwyn gweld lleoliadau ac amseroedd agor yr Hyb) lle y byddwch yn derbyn cefnogaeth i wneud cais digartref.
Gwneud Cais Digartref
Unwaith y byddwch wedi dweud wrthym eich bod yn ddigartref neu o dan fygythiad o ddigartrefedd o fewn y 56 diwrnod nesaf, bydd un o’n Swyddogion Opsiynau Tai yn cysylltu â chi a fydd yn cymryd gwybodaeth bellach oddi wrthych. Byddant yn siarad â chi am eich sefyllfa bresennol ac yn gweithio gyda chi i greu Cynllun Tai Personol (PHP) i geisio datrys eich digartrefedd. Mae’n bwysig eich bod yn gweithio gyda’ch Swyddog Opsiynau Tai ac yn cwblhau unrhyw dasgau ar eich Cynllun Tai Personol. Byddwn yn gofyn i chi hefyd a hoffech gael eich atgyfeirio am gymorth.
Beth sydd angen i mi ddarparu?
Pan fyddwch yn cysylltu â ni am y tro cyntaf bydd angen i chi roi gwybod i ni sut y byddai’n well gennych i ni gysylltu â chi. Gall hyn fod dros y ffôn, drwy e-bost, yn bersonol neu dros alwad fideo naill ai ar eich dyfais eich hun (gan ddefnyddio Microsoft Teams) neu yn Hyb y Fenni.
Bydd gofyn i chi am:
- Eich rhif Yswiriant Gwladol;
- Gwybodaeth am bob aelod o’r cartref sy’n byw gyda chi;
- Manylion eich incwm;
- Copi o’ch hysbysiad troi allan (os oes gennych un).
Gofynnir i chi a oes gennych unrhyw le i aros, hyd yn oed os yw hyn dros dro. Os nad oes gennych unrhyw le i aros ac rydym yn credu y gallech fod mewn Angen Blaenoriaethol bydd eich Swyddog Opsiynau Tai yn eich cyfeirio at ein Tîm Llety ar gyfer Llety Dros Dro.
Llety Dros Dro
Pan fyddwch yn gwneud eich cais digartrefedd bydd eich Swyddog Opsiynau Tai yn gofyn i chi a oes gennych unrhyw le i gysgu. Os nad oes lle gennych a bod eich swyddog tai yn credu y gallech fod ag Angen Blaenoriaethol, byddwch yn cael eich cyfeirio at y Tîm Llety ar gyfer Llety Dros Dro.
• Beth yw Llety Dros Dro?
Mae Cyngor Sir Fynwy yn gosod aelwydydd mewn llety dros dro os credir eu bod mewn Angen Blaenoriaethol, nad oes ganddynt unrhyw le arall i aros a’u bod yn aros am ganlyniad ar eu cais digartrefedd.
Nifer cyfyngedig iawn o unedau llety dros dro sydd gan Gyngor Sir Fynwy.
Bydd gweithiwr cymorth yn cael ei ddyrannu’n awtomatig i bawb sy’n cael eu rhoi mewn llety dros dro.
- Sut olwg fydd ar fy Llety Dros Dro?
Mae’r llety a gynigir i chi yn dibynnu ar yr hyn sydd ar gael ar y diwrnod.
Oherwydd prinder difrifol o lety dros dro, gallech gael eich gosod mewn Gwely a Brecwast gyda chyfleusterau a rennir, neu mewn llety a rennir.
- Ble fydd fy llety dros dro?
Tra bydd y Tîm Llety yn ceisio ystyried rhwydweithiau cymorth, cyflogaeth ac addysg, rydym wedi ein cyfyngu i gynnig llety sydd ar gael ar y diwrnod.
- A fyddaf yn gallu mynd â’m hanifeiliaid anwes?
Rydym yn gwerthfawrogi bod llawer o aelwydydd yn ystyried bod eu hanifeiliaid anwes yn rhan o’r teulu, ond mae nifer yr unedau llety dros dro y gallwn gael mynediad iddynt a fydd yn caniatáu anifeiliaid anwes wedi eu cyfyngu. Mae’n annhebygol iawn y byddwn yn gallu cynnig llety sy’n derbyn anifeiliaid anwes ar y diwrnod y byddwch yn cysylltu â ni.
Efallai y byddwn yn gofyn i chi a oes unrhyw le y gallwch fynd â’ch anifail anwes/anifeiliaid anwes i aros yn y cyfamser, neu gallwn eich cefnogi i edrych ar opsiynau i wneud hyn.
• Beth fydd yn digwydd i’m heiddo?
Bydd ein hunedau Llety Dros Dro wedi’u dodrefnu’n llawn, ac felly nid yw’n ymarferol i bobl fynd â darnau mawr o ddodrefn gyda nhw.
Cysgu Allan
Mae’r cyngor yn comisiynu Allgymorth Pendant Llamau i weithio gyda’r rhai sy’n cysgu allan yn Sir Fynwy.
- Sut i ddweud wrthym am rywun sy’n cysgu ar y stryd
Os sylwch ar rywun yn cysgu allan mae’n well cwblhau atgyfeiriad i Streetlink. Nid oes angen i chi fynd at rywun nad ydych yn ei adnabod i gael gwybodaeth, ond gofynnir i chi ddarparu manylion fel ble ydych chi wedi gweld y person yn cysgu allan, faint o’r gloch, a sut roedd yn gwisgo/edrych.
Bydd Streetlink wedyn yn cysylltu â’r gwasanaethau perthnasol. Gallwch ddefnyddio Streetlink Streetlink i roi gwybod am rywun sy’n cysgu allan unrhyw le yng Nghymru a Lloegr.
- Sut i gysylltu â Streetlink
Cysylltwch â Streetlink i helpu rhywun sy’n cysgu allan
Gallwch gysylltu â StreetLink drwy:
- Cofrestru ar-lein (Cliciwch er mwyn ymweld gyda gwefan Streetlink).
- Eu ffonio ar 0300 500 0914, 24 awr y dydd a 7 diwrnod yr wythnos.
- Lawrlwytho’r ap ar gyfer ffôn mudol sy’n rhad ac am ddim o iTunes neu Google Play.
Beth fydd yn digwydd nesaf?
Bydd Streetlink wedyn yn trosglwyddo’r wybodaeth hon i Wasanaeth Allgymorth Pendant Llamau. Mae Streetlink Streetlink yn rhoi’r opsiwn i chi gael gwybod am ganlyniad eich rhybudd, os yw hyn yn rhywbeth yr hoffech ei wybod.
Mae gan lawer o bobl sy’n cysgu ar y stryd anghenion cymorth cymhleth ac efallai eu bod eisoes yn hysbys i wasanaethau. Mewn rhai achosion gall gymryd cyfnod hwy o gefnogaeth i helpu rhywun i adael cysgu ar y strydoedd. Peidiwch â digalonni os byddwch yn parhau i weld person yn cysgu allan, a fyddech cystal â pharhau i roi gwybod i unrhyw un yr ydych yn pryderu yn ei gylch.
Dogfennau perthnasol: