Skip to Main Content
Dewch i ymuno ar tim

Dadansoddwr Perfformiad

Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i wella’n barhaus sut ydym yn gweithio wedi’i alinio â
phwrpas clir a gwerthoedd cryf. Mae ein trefniadau rheoli perfformiad yn ganolog i hyn.
Mae’r swydd newydd hon yn rhan o Dîm Perfformiad a Dealltwriaeth o Ddata bach, ond
sy’n tyfu, i gefnogi datblygiad parhaus amodau ar gyfer perfformiad uchel yn y Cyngor.
Byddwch yn gweithio ar draws pob agwedd ar ein fframwaith rheoli perfformiad gan
gynnwys cynllunio busnes, mesur perfformiad, rheoli risg a rheoleiddio. Byddwch yn
gweithio ar brosiectau sy’n effeithio ar yr ystod lawn o feysydd Gwasanaeth y Cyngor,
gan weithio gyda phobl ar draws yr sefydliad. Mae’r rôl yn amrywiol, y cyd-destun yn
heriol a’r cyfleoedd yn niferus.
Mae gwybodaeth rheoli perfformiad bresennol yn ddymunol ond nid yn hanfodol. Rydym
yn chwilio am rywun sydd â’r sgiliau a’r agwedd i lwyddo yn y rôl, a’r awydd i dyfu a
datblygu gyda ni i’n cefnogi i reoli a gwerthuso perfformiad. Byddwn yn buddsoddi yn
eich datblygiad ac rydym yn disgwyl i chi ddefnyddio’ch sgiliau i wneud cyfraniad
sylweddol i’n helpu i gyflawni ein pwrpas

Cyfeirnod Swydd: CPP 89

Gradd: BAND E SCP £25,409 – SCP £27,344

Oriau: 37 yr wythnos

Lleoliad: Neuadd y Sir, Brynbuga / Gweithio’n Hyblyg

Dyddiad Cau: 20/07/2023 12:00 pm

Dros dro: Na

Gwiriad DBS: Nid oes angen gwiriad