Cynorthwyydd Dysgu – Lefel 2
Mae’r Corff Llywodraethu am benodi person ymroddgar, gofalgar a brwdfrydig i ymuno
â’n cymuned gyfeillgar a thîm o staff, llywodraethwyr, disgyblion a rhieni ymroddedig,
brwdfrydig. Rhaid i chi allu gweithio’n agos gyda holl aelodau’r tîm i ddarparu dilyniant i’r
plant yn y dosbarth. Rhaid i chi allu gweithio ym mhob grŵp blwyddyn a darparu
cymorth 1:1 a chymorth grŵp i ddisgyblion ag anghenion corfforol, dysgu neu
ymddygiadol, mewn amgylchedd prif ffrwd.
Mae Ysgol Gynradd Parc y Castell wrth galon cymuned Cil-y-coed. Ein gweledigaeth ar
gyfer Ysgol Gynradd Parc y Castell yw darparu’r profiadau i bawb fod yn ddysgwyr
hapus, gwydn a hyderus. Mae angen i bob disgybl a staff fod yn annibynnol, meddwl yn
greadigol a myfyrio ar eu dysgu, er mwyn cyflawni eu gwir botensial a’u dyheadau ar
gyfer y dyfodol.
Cyfeirnod Swydd: L23221048
Gradd: Band C SCP 5-8 £23,500 - £24,702 pro rata
Oriau: 32.5 awr yr wythos, 39 wythnos y flwyddyn
Lleoliad: Ysgol Gynradd Parc y Castell
Dyddiad Cau: 28/08/2024 12:00 pm
Dros dro: DROS DRO Cyn gynted ag sydd yn bosib – 31ain Awst 2025
Gwiriad DBS: Gwiriad Manwl o’r Rhestr Gwahardd Gweithio gyda Phlant