Skip to Main Content
Dewch i ymuno ar tim

Cynorthwyydd Cefnogi Dysgu 1:1

Mae’r pennaeth a’r corff llywodraethol yn chwilio am unigolyn dawnus ac ymroddgar o ran cefnogi dysgu
plentyn 1:1. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio mewn partneriaeth gyda staff dynamig ac
uchelgeisiol, y gymuned a’r corff llywodraethol er mwyn sicrhau canlyniadau addysg ragorol ar gyfer disgyblion
Ysgol y Fenni.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â staff creadigol a blaengar. Dyma swydd ddiddorol, ond hynod werth
chweil ac rydym yn chwilio am y person iawn i ymuno â ni fel rhan annatod o’n tîm cyfeillgar, ymroddedig ac
ysbrydoledig. Bydd y pennaeth, staff a’r corff llywodraethol yn darparu cefnogaeth heb ei hail i’r ymgeisydd
a fydd yn dangos ymroddiad o’r safon uchaf i gydweithio’n frwdfrydig gyda nhw, i gynnig y gorau posib i holl
blant yr ysgol. Mae’r gallu i gyfarthebu trwy gyfrwng y Gymraeg yn ddelfrydol.
Cysylltwch â’r ysgol i drafod y rôl ymhellach.

Cyfeirnod Swydd: L23171018

Gradd: SCP Band Cyflog Staff Cymorth 9 - 13 £25,119 - £26,873 y flwyddyn Amser tymor yn unig (Yn weithredol o 01.04.2018 bydd y cyfrifiad hwn yn ymgorffori hawl pro rata i wyliau banc a gwyliau blynyddol).

Oriau: 5 diwrnod yr wythnos 39 wythnos y flwyddyn

Lleoliad: Ysgol Gymraeg Y Fenni

Dyddiad Cau: 19/07/2024 12:00 pm

Dros dro: Cytundeb blwyddyn i ddechrau

Gwiriad DBS: Angenrheidiol